Ers degawd a mwy, clywsom y diwn gron gan wleidyddion y Fam Ynys ar bob lefel – Cyngor Sir, Cynulliad a San Steffan – fod rhaid cael Wylfa B. Dyma sail strategaeth economaidd Ynys Môn. Pam y gefnogaeth gibddall gan ein gwleidyddion?
Sut ar wyneb y ddaear fedra ni fod mor wirion a dadlau efo’r doethion? Ydw i’n ffŵl yn gwrthwynebu Wylfa B?
Cefndir
Bu’r atomfa wreiddiol ar agor rhwng 1971 a 2015. Y bwriad cudd oedd cynhyrchu plwtoniwm ar gyfer arfau niwclear. Cynhyrchu trydan oedd y rheswm a roddwyd i’r cyhoedd.
Cwmni Horizon sydd eisiau adeiladu Wylfa B. Hitachi, y cawr cyfalafol o Siapan sy piau Horizon. Hitachi fu’n rhannol gyfrifol am adeiladu atomfa Fukushima.
Jobsus i Hogia Ni!
Addewid o 850 o swyddi parhaol – ond bydd llawer yn arbenigol. Fydd y mwyafrif ohonynt ddim i bobl leol. Sôn am filoedd o swyddi adeiladu – ond yn ôl Horizon tua chwarter fydd yn swyddi lleol – a “lleol” yw Gogledd Cymru hyd at Gaer! Felly dymchwelir ar unwaith y brif ddadl o blaid Wylfa B.
Pam fod Môn cyn dloted ar waethaf “Llo Aur” y Wylfa wreiddiol?
Ynni carbon isel, dibynadwy.
Mae sawl astudiaeth yn dangos nad ydi niwclear yn garbon isel pan ystyrir y cylch cyfan, o fwyngloddio am wraniwm, drwy yr holl adeiladu, heb sôn am ddigomisiynu ac wrth gwrs y broblem o waredu’r gwastraff. Dibynadwy – felly dydi atomfa fyth yn cau yn ddirybudd am fisoedd ar y tro?
Cynnal cymunedau Cymraeg.
Trodd iaith ysgol Cemaes mewn cyfnod byr o’r Gymraeg i’r Saesneg pan ddaeth yr atomfa wreiddiol. Mae Horizon yn cynnig mesurau “lliniaru” ar gyfer y Gymraeg. Ond mae lliniaru yn rhagdybio niwed – fedr y Gymraeg fregus ddim fforddio colli rhagor o dir.
Bu Horizon yn erlid teulu Cymraeg Caerdegog a fynnent gadw y tir le y buont yn ffermio ers cenedlaethau. Daeth cannoedd i rali yn Llangefni yn Rhagfyr 2012 i gefnogi’r teulu.
Mae o’n saff, yn tydi?
Deudwch hynny wrth bobl Chernobyl a Fukushima! Mae llawer yma yn dal heb ddeall y bydd y gwastraff gwenwynig yn cael ei gadw ar y safle am dros ganrif – lle da fydd Môn i fagu plant ynte? Daeth Naoto Kan, Prif Weinidog Siapan adeg Fukushima, i Fôn yn 2015 i’n rhybuddio o’r peryglon.
Mae Wylfa B yn siŵr o ddŵad.
Dyma’r bregeth gyson. Ond bellach mae amheuon mawr. Mae Hitachi wedi dweud eu bod yn dymuno cael partneriaid eraill – mae nhw’n son am ostwng eu cyfranddaliad yn Horizon i cyn lleied a 0%.
Gwell dyfodol.
Mae’r diwydiant niwclear ledled y byd mewn llanast llwyr. Ffolineb ar ran gwleidyddion yw diystyru hynny. Dim ond arian enfawr gan y Llywodraeth (sef ni!) fedr ei achub.
Llawer gwell fyddai strategaeth economaidd amrywiol er mwyn cadw’n pobl ifanc. Mae ynni adnewyddol a thechnoleg storio trydan yn prysur ddisodli niwclear fel dull cost-effeithiol o gynhyrchu ynni. Ac yn cynnig mwy o swyddi! Dagrau pethau fyddai i Fôn fethu manteisio ar y diwydiannau newydd drwy fynnu anwylo’r deinosor niwclear gwenwynig.
Robat Idris
02/08/2017 (cedwir yr hawlfraint)
Ceir fanylion llawn am Hollti yma.