Mae’r holl glybiau drama rydym yn eu cynnal ar y cyd â’n partneriaid yn ail-ddechrau’r mis hwn ac mae llwythi o weithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer y tymor newydd.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein clybiau drama poblogaidd yn dychwelyd am dymor newydd o weithgareddau, yn ogystal â chlwb newydd sbon ar gyfer y tymor hwn. Mae Clwb Cica’r Ffin (mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro a Cered), Clwb Drama Caerfyrddin (mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr), ac Ysgol Berfformio Felinfach (mewn partneriaeth â Theatr Felinfach) oll yn dychwelyd am gyfres newydd o sesiynau cyffrous. Yn ogystal, mae Criw Cefn Llwyfan, sydd mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr, yn dychwelyd ar ei newydd wedd i ddarparu sgiliau cefn llwyfan i ddisgyblion ysgol uwchradd yr ardal – byddwn yn cynnig profiadau goleuo, sain, rheoli llwyfan, set a gwisgoedd, i enwi dim ond rhai.
Yn ychwanegol at y clybiau uchod, rydym wedi creu partneriaeth newydd gyda Menter Iaith Abertawe i gynnal Clwb Drama newydd sbon yn y sir, sef Clwb Drama Abertawe. Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon yn gyfle i’r Fenter a ninnau gynnal gweithgareddau drama llawn hwyl a sbri i blant Abertawe. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y berthynas hon yn blaguro a chynnig cyfleoedd creadigol o bob math i’r clwb newydd.
Mae ein Swyddog Cyfranogi, Llinos Jones, yn falch o weld gwaith cyfranogi’r cwmni yn datblygu:
“Mae’n holl glybiau drama yn gyfle i ni gydweithio gyda’n partneriaid i greu darpariaeth ehangach o waith cyfranogi yn ein cymunedau lleol. Bydd Clwb Drama Abertawe, mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe, yn cynnig nifer o gyfleoedd arbennig i bobl ifanc y sir, a bydd yn gyfle i ninnau roi profiadau creadigol o fyd y ddrama i’r bobl ifanc hynny. Bydd y sesiynau’n cynnwys magu hyder, cael profiad o sgwennu sgriptiau, cymeriadu a symud, a chreu setiau ac arbrofi. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y clwb yn datblygu dros yr wythnosau nesaf.”

Roedd uchafbwyntiau ein clybiau y llynedd yn cynnwys nifer o ddangosiadau, cyfleoedd cydweithio a pherfformiadau arbennig. Un uchafbwynt oedd y prosiect Dwy Stori, Un Llwyfan (rhan o Ŵyl Gwanwyn Age Cymru) lle roedd Clwb Drama Caerfyrddin (sydd mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr) wedi cydweithio gyda phreswylwyr Cartref Cynnes, Caerfyrddin i greu dangosiad o waith y sesiynau creadigol a gynhaliwyd rhwng y ddwy genhedlaeth. Roedd y cynllun hwn yn un arbennig ac yn rhoi cyfle i blant Clwb Drama Caerfyrddin fagu hyder a gweithio’n greadigol gyda’r to hŷn. Gallwch wylio fideo sy’n crynhoi’r prosiect yma.
Ceir holl fanylion y clybiau drama isod, neu os hoffech drafod y clybiau gyda ni yn Theatr Genedlaethol Cymru mae croeso i chi gysylltu drwy ebostio thgc@theatr.com neu ffonio
01267 233 882.
Clwb Cica’r Ffin mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro a Cered
Pryd: 30.09.2019 (bob nos Lun)
Amser: 4–5pm (cynradd) a 5–6pm (uwchradd)
Ble: Theatr Mwldan, Heol Bath-House, Aberteifi SA43 1JY
Cyswllt: Non Davies non.davies@ceredigion.gov.uk
Clwb Drama Abertawe mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe
Pryd: Clwb newydd yn dechrau ar 17.09.2019 (bob nos Fawrth)
Amser: 4–4.45pm (cynradd) a 4.45–6pm (uwchradd)
Ble: Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe, SA1 4E
Cyswllt: Meinir Davies datblygu@menterabertawe.org
Clwb Drama Caerfyrddin mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr
Pryd: 11.09.2019 (bob nos Fercher)
Amser: 6–7pm
Ble: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Cyswllt: Alma Roberts alma@mgsg.cymru
Ysgol Berfformio Felinfach mewn partneriaeth â Theatr Felinfach
Pryd: 12.09.2019 (bob nos Iau)
Amser: 4.30–5.30pm (cynradd) a 5.30–7pm (uwchradd)
Ble: Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron SA48 8AF
Cyswllt: Sioned Thomas Sioned.thomas@ceredigion.gov.uk
Criw Cefn Llwyfan mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr
Pryd: 26.09.2019 (nos Iau olaf bob mis)
Amser: 6–7.30pm (uwchradd)
Ble: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Cyswllt: Alma Roberts alma@mgsg.cymru