Rydym ni a Theatr y Sherman yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r cast llawn a’r tîm creadigol ar gyfer y perfformiadau cyntaf erioed o Tylwyth gan Daf James – drama newydd, dyner a direidus sy’n dod â’r cymeriadau poblogaidd fu’n rhan o’r ddrama arobryn Llwyth yn ôl at ei gilydd. Cynhelir y perfformiadau cyntaf yn Theatr y Sherman cyn teithio i theatrau ledled Cymru yn ystod Mawrth ac Ebrill 2020.
Mae Tylwyth yn gyfle i Simon Watts, Danny Grehan a Michael Humphreys ailgydio yn eu rhannau gwreiddiol, a chroesewir tri aelod newydd o’r cast: Arwel Davies, Aled ap Steffan a Martin Thomas. Yr awdur yw’r dramodydd arobryn Daf James, a chaiff y ddrama ei chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, sy’n enillydd gwobr BAFTA Cymru. Bydd Tom Rogers – cynllunydd Llwyth – yn dychwelyd i fyd y cymeriadau i gynllunio’r set a’r gwisgoedd ar gyfer Tylwyth; mae gwaith diweddar Tom yn y West End, Llundain, yn cynnwys 9 to 5 The Musical, The Secret Diary of Adrian Mole aged 13¾ a Pretty Woman sy’n agor yn fuan. Ceri James yw’r cynllunydd goleuo ar gyfer Tylwyth; ar hyn o bryd mae Ceri’n gweithio ar gynhyrchiad Frân Wen o Llyfr Glas Nebo, ac mae ei waith yn y gorffennol yn cynnwys y sioe oleuadau ryfeddol a gynhaliwyd yn ystod y dathliad Roald Dahl’s City of the Unexpected. Mae’r cynllunydd sain Sam Jones hefyd yn ymuno â’r tîm creadigol; mae e eisoes wedi gweithio gyda’r ddau gwmni ar gynhyrchiad Powderhouse o Saethu Cwningod/ Shooting Rabbits, yn ogystal â chyflwyno gwaith yn y National Theatre yn Llundain, Gŵyl Ymylol Caeredin, ac ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr Llwyth a Tylwyth: “Mae’n bleser pur cael ail-ymweld â chymeriadau Llwyth unwaith yn rhagor, ac rydym yn falch iawn o gael cydweithio eto gyda rhai o actorion y cynhyrchiad nodedig hwnnw, yn ogystal â pharhau ein perthynas glòs gyda Theatr y Sherman. Rydym hefyd yn hapus iawn i groesawu aelodau newydd i’r ‘llwyth’, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau’r ymarferion ym mis Chwefror. Roedd Llwyth yn brofiad ysgubol i mi fel cyfarwyddwr ddeng mlynedd yn ôl; ddychmygais i erioed y byddai’n cael y fath ymateb ac effaith ar fyd y theatr yng Nghymru. Er ei bod, wrth gwrs, yn ddilyniant o fath i Llwyth, mae Tylwyth yn ddrama ryfeddol yn ei rhinwedd ei hun, ac rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle hwn i weithio unwaith eto gyda Daf James wrth gyflwyno ei waith diweddaraf i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Does gen i ddim amheuaeth ein bod, unwaith eto, ar fin cychwyn ar andros o daith gyffrous!”
Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr y Sherman: “Rydw i wrth fy modd yn cael cyd-gynhyrchu Tylwyth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Daf James wedi ysgrifennu drama ddoniol a thorcalonnus sy’n gwneud i chi feddwl, ac a fydd yn peri i’r cynulleidfaoedd grio a chwerthin bob yn ail. Mae dramâu fel hon yn nodweddiadol o’r hyn y mae Theatr y Sherman yn ei gynnig: nosweithiau mas sy’n gyffrous a theimladwy, ac yn adrodd straeon lleol sydd hefyd yn berthnasol yn fyd-eang.”
Bydd Simon Watts – sy’n dod yn wreiddiol o Rydaman – unwaith eto’n chwarae rhan y cymeriad Aneurin, wedi iddo ennill Gwobr Theatr Cymru am ei berfformiad eithriadol yn y cynhyrchiad gwreiddiol o Llwyth; mae Simon wedi gweithio’n eang ym myd theatr a theledu, gan gynnwys cynhyrchiad y RSC o The Two Gentlemen Of Verona a’r gyfres Deian a Loli, a enillodd wobr BAFTA Cymru. Bydd Danny Grehan, o Donyrefail, yn ail-gydio yn rhan Dada; mae Danny yn wyneb cyfarwydd ym myd y theatr ac ar y teledu, ag yntau wedi ymddangos yn The Thorn Birds (Wales Theatre Company) a Pobol y Cwm (S4C) ymhlith eraill. Mae Michael Humphreys hefyd yn dychwelyd i’r cast fel Gareth; mae Michael, sy’n dod yn wreiddiol o Dreharris, wedi perfformio mewn nifer fawr o sioeau, yn cynnwys teithiau cenedlaethol a rhyngwladol o War Horse (National Theatre). Mae Arwel Davies yn ymuno â’r cast fel Rhys; Arwel – sy’n dod yn wreiddiol o Meinciau, Pontiêts – sy’n chwarae rhan Eifion Rowlands, un o gymeriadau rheolaidd Pobol y Cwm. Yn ymuno â’r cast fel Gavin mae Aled ap Steffan; yn wreiddiol o Rydaman, mae Aled ar fin ymddangos mewn cyfres drama mawr newydd gan HBO/Sky, Gangs of London, ac mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys A Night in the Clink gan Papertrail a Theatr y Sherman. Mae Martin Thomas hefyd yn ymuno â’r cast fel y cymeriad newydd Dan; mae Martin, sy’n dod yn wreiddiol o Ddeiniolen, wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru, yn cynnwys Macbeth, Nansi, Blodeuwedd a La Primera Cena ac mae ei waith teledu’n cynnwys 35 Diwrnod a Rownd a Rownd (S4C).
Perfformiadau Cyntaf:
Theatr y Sherman, Caerdydd
10–13 Mawrth 2020
Tocynnau: www.shermantheatre.co.uk
Y Daith:
Galeri, Caernarfon
17 + 18 Mawrth 2020
Tocynnau: www.galericaernarfon.com
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
20 + 21 Mawrth 2020
Tocynnau: www.aberystwythartscentre.co.uk
Ffwrnes, Llanelli
24 Mawrth 2020
Tocynnau: www.theatrausirgar.co.uk
Hafren, Y Drenewydd
26 Mawrth 2020
Tocynnau: www.thehafren.co.uk
Theatr Mwldan, Aberteifi
28 Mawrth 2020
Tocynnau: www.mwldan.co.uk
Pontio, Bangor
31 Mawrth + 1 Ebrill 2020
Tocynnau: www.pontio.co.uk
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
3 + 4 Ebrill 2020
Tocynnau: www.theatrclwyd.com
Perfformir Tylwyth yn Gymraeg. Bydd rhai di-Gymraeg, dysgwyr, a phobl sy’n f/Fyddar neu’n drwm eu clyw yn gallu dilyn y ddrama gyfan gyda chapsiynau dwyieithog ym mhob perfformiad yn Theatr y Sherman ac ar 3 Ebrill yn Theatr Clwyd. Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, hefyd ar gael ym mhob perfformiad ar hyd y daith gyfan i dywys y gynulleidfa drwy’r stori, pa mor rugl bynnag ydynt yn yr iaith Gymraeg.
23 Ionawr 2020