Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi bod tocynnau ar gyfer taith Nansi nawr ar werth. Bydd y daith yn agor yn Neuadd Goffa Cricieth ar yr 8fed o Fehefin ac yna yn teithio i bum canolfan tan ddechrau Gorffennaf 2016.
Bydd Melangell Dolma yn ail-ymuno â’r cwmni i chwarae rhan Nansi a Gwyn Vaughan Jones yn chwarae rhan ei thad, gyda Betsan Llwyd a Martin Thomas yn ymuno o’r newydd â’r cast.
Angharad Price yw awdur y sgript, yn seiliedig ar syniad gwreiddiol gan Sarah Bickerton, gyda Sarah Bickerton yn cyfarwyddo. Carl Davies yw cynllunydd y set a’r gwisgoedd, gyda Dyfan Jones yn Gyfansoddwr a Chynllunydd Sain, a Joe Fletcher yn Gynllunydd Goleuo.
Mae’r ddrama’n rhoi inni flas o’r newydd ar fywyd lliwgar y delynores o Faldwyn, Nansi Richards, gan edrych yn bennaf ar ei phlentyndod, ei gyrfa gynnar fel telynores fyd enwog yn y 1920au, a’i haml garwriaethau yn y cyfnod hwnnw. A’i gyrfa ar ei hanterth, mae telynores enwocaf Cymru’n sefyll ar groesffordd. A oes lle i gariad arall yn ei bywyd – cariad arall heblaw’r delyn?
- diwedd -
Gwybodaeth bellach:
Nansi
Pris tocynnau’r daith: £15 (pris llawn) / £12 (pris gostyngedig i fyfyrwyr) / £10 (pris grŵp i 10 neu fwy o bobl)
Neuadd Goffa Cricieth
8 – 9 Mehefin: 19:30
10 Mehefin: 13:30 a 19:30
Tocynnau: Siop Newsday, Cricieth – 01766 522 491
Yr Institiwt, Llanfair Caereinion
15 Mehefin: 19:30
16 Mehefin: 13:30 a 19:30
17 Mehefin: 19:30
Tocynnau: Menter Maldwyn – 01686 610 010 / post@mentermaldwyn.org
The Paget Rooms, Penarth
22 Mehefin: 19:30
23 Mehefin: 13:30 a 19:30
24 Mehefin: 19:30
Tocynnau: Siop Foxy’s Deli, Penarth – 029 2025 1666
Neuadd Goffa Aberaeron
28 – 29 Mehefin: 19:30
30 Mehefin: 13:30 a 19:30
Tocynnau: Theatr Felinfach – 01570 470 697 / www.theatrfelinfach.cymru
Neuadd y Tymbl
5 – 6 Gorffennaf: 19:30
7 Gorffennaf: 13:30 a 19:30
Tocynnau: Menter Cwm Gwendraeth Elli – 01269 871 600 / nerys@mcge.org.uk
Hyd y ddrama: 1 ½ awr
Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn y sioe, ac fe fydd bar yn gwerthu diodydd meddal ac alcoholic yn y lleoliad.