Bore fory (28 Hydref 2015) am 10 y bore bydd tocynnau Chwalfa gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen, yn mynd ar werth i’r cyhoedd.
Bydd Chwalfa yn cael ei lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor o 17 Chwefror i 27 Chwefror 2016.
Mae Chwalfa yn addasiad gan Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes. Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn cyfarwyddo’r ddrama. Bydd aelodau o’r gymuned unwaith eto yn rhan annatod o’r cynhyrchiad a’r ymarferion yn cychwyn yn yr ardal ym mis Tachwedd eleni.
Rhwng 28 Hydref a 30 o Dachwedd, mae yna gynnig arbennig o £10 y tocyn (pris tocyn llawn arferol fydd £15 a £12 i gonsesiynau) os yn defnyddio’r côd arbennig CHWALFA15*.
Bydd modd archebu tocynnau trwy Pontio:
- Drwy alw yn siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor, ac yn Swyddfa Docynnau’r ganolfan unwaith y bydd ar agor
- Drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28
- Ar-lein o www.pontio.co.uk
Gwybodaeth bellach
Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru; 01267 245617 / lowri.johnston@theatr.com
*Nid yw’n bosib defnyddio’r cynnig yma ynghyd ag unrhyw gynnig arbennig arall. Gweler ein gwefan www.tickets.pontio.co.uk/online/term am delerau llawn Pontio