Yn 2018, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu preswyl dros 7 diwrnod a fydd yn cynnig cyfleoedd datblygu i berfformwyr ifanc sydd hefyd â diddordeb mewn llwybrau gyrfa eraill yn y maes.
Pwy sy’n gymwys?
Rydym yn chwilio am artistiaid ifanc a thalentog rhwng 16 a 22 oed sy’n byw yng Nghymru, neu a gafodd eu geni yng Nghymru, ac sydd â diddordeb mewn perfformio a dilyn gyrfa ym maes theatr. Efallai eich bod yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau neu weithgareddau drama yn rheolaidd drwy eich ysgol/coleg, ysgol ddrama breifat a/neu gwmni theatr ieuenctid lleol.
Byddwn yn dewis aelodau’r ensemble trwy broses clyweliad gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithdy clyweliad grŵp a chael cyfweliad anffurfiol.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Canllawiau ThCIC
Cewch lawrlwytho gofynion y clyweliad yma: Gwybodaeth ac Amserlen Clyweliadau
I lenwi ffurflen cais arlein, cliciwch yma.