Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Nyrsys – Gwaith ar waith
    • Dwy
    • Estron
    • Nyrsys
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Swyddi
    • Cysylltwch â Ni
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
    • Llogi Adnoddau
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Theatr Gen Creu
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Nyrsys – Gwaith ar waith
    • Dwy
    • Estron
    • Nyrsys
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Swyddi
    • Cysylltwch â Ni
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
    • Llogi Adnoddau
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Theatr Gen Creu
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • English
Llun Sarah Bickerton (2)

Mae pleser gennym gyhoeddi ein bod wedi penodi Sarah Bickerton yn Gyfarwyddwr Cyswllt. Mae Sarah yn ymuno â ni ar gytundeb penodedig o ddwy flynedd yn ystod cyfnod cyffrous, a ninnau ar fin cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gweddill y flwyddyn hon.

Mae hi’n dod â phrofiadau cyfoethog ym maes cyfarwyddo a chreu theatr gyda hi, ac ar hyn o bryd mae hi hefyd yn astudio cwrs MA drwy ymchwil mewn dramatwrgiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, gan archwilio prosesau gwahanol o ddatblygu dramâu newydd. Yn wreiddiol o Sir Drefaldwyn, graddiodd Sarah o Brifysgol Aberystwyth yn 2008, cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel cyfarwyddwr theatr gyda Living Pictures a Sherman Cymru. Bu’n Gynorthwyydd Llenyddol gyda Sherman Cymru, lle’r oedd yn gyfrifol am gydlynu prosiect ysgrifennu newydd ‘SgriptSlam’. Mae Sarah eisoes wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru; hi oedd cyfarwyddwr y ddrama newydd Nansi gan Angharad Price ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn, 2015 – cynhyrchiad a fu ar daith yn ystod 2016 ac a enwebwyd ar gyfer y wobr am y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017 – a hi hefyd oedd y cyfarwyddwr cyswllt ar ein cynhyrchiad Y Bont yn 2013. Mae Sarah wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau fel cyfarwyddwr, cyfarwyddwr cynorthwyol ac arweinydd gweithdy gyda nifer o gwmnïau theatr eraill, yn cynnwys Sherman Cymru, National Theatre Wales, Rimini Protokoll, Living Pictures, Mess up the Mess, Theatr Iolo, Protest Fudur, Gŵyl Theatr Ryngwladol Copenhagen a’r Bristol Old Vic.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Rydym yn hynod falch o gael croesawu Sarah atom, ac yn ffodus iawn fod rhywun a chanddi’r fath ystod o brofiad a sgiliau yn ymuno â’r tîm. Mae Sarah nid yn unig wedi profi ei gallu i gyfarwyddo gwaith theatr o’r safon uchaf, ond mae hi hefyd yn un sy’n abl iawn i arwain cynlluniau creadigol yn gyffredinol, i feithrin talent ac i helpu eraill i wireddu eu gweledigaeth. Rwyf yn edrych ymlaen yn eithriadol i gydweithio â hi ar amrywiol brosiectau dros y ddwy flynedd nesaf, ac i weld ei dylanwad ar gynlluniau artistig y cwmni.”

Dywedodd Sarah Bickerton am ei phenodiad:

“Mae’n fraint cael ymuno â thîm Theatr Genedlaethol Cymru.  Dwi’n edrych mlaen yn fawr at weithio gydag artistiaid Cymraeg ac i fod yn rhan o ddatblygu gwaith y cwmni ymhellach.”

Yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru, bydd Sarah yn gweithio i ddatblygu syniadau a thalentau newydd. Hoffai glywed gan unrhyw awdur, darpar awdur neu wneuthurwr theatr sydd â syniad yr hoffent ei ddatblygu gyda’r cwmni. I gysylltu â Sarah, anfonwch ebost at sarah.bickerton@theatr.com neu ffoniwch 01267 233 882. Am newyddion ynghylch prosiectau sydd gan Sarah ar y gweill, cadwch lygad barcud ar ein gwefan dros yr wythnosau nesaf.

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
Derbyn ein cylchlythyr!
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • A gorgeous snapshot of our latest production #Estron (Alien) which tours Wales until 19 May. Info and how to book:… https://t.co/QRnu1ZQHTG10:03 22/04/2018
  • Ambell lun o’n cynhyrchiad #Estron sydd ar daith tan 19 Mai. Mynnwch docyn: https://t.co/vY1pxgoq7g Delweddau… https://t.co/FAI0ZPHAjO10:00 22/04/2018
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government