Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dymuno penodi Cadeirydd newydd erbyn diwedd 2018 i arwain y cwmni drwy gyfnod cyffrous yn ei hanes.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n fodlon ymrwymo i arwain datblygiad strategol y cwmni. Dyma gyfle i wneud cyfraniad o bwys wrth inni greu profiadau theatr o’r radd flaenaf yn y Gymraeg.
Gwahoddir unigolion a hoffai ragor o fanylion am y swydd i gysylltu ag Angharad Jones Leefe, Ysgrifennydd y Bwrdd / Cyfarwyddwr Gweithredol ar angharad.leefe@theatr.com.
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 5.00yp ar 28 Medi 2018
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 22 Hydref 2018
Swydd wirfoddol yw hon ond telir unrhyw gostau rhesymol.
Am fanylion llawn, cliciwch yma