Dydd Sadwrn 8 Ebrill 2017 bydd Theatr Genedlaethol Cymru, ar y cyd ag Oriel Myrddin, yn cymryd rhan yn Cer i Greu, penwythnos byrlymus sy’n dathlu creadigrwydd yng Nghymru. Fel rhan o’r penwythnos arbennig hwn bydd y cwmni’n cynnal ‘Soprano a Sialc’ – digwyddiad rhad ac am ddim ym Maes Nott, Caerfyrddin, sy’n rhoi cyfle i blant a phobl o bob oedran ymwneud ag opera, cerddoriaeth glasurol a chelf stryd.
Beth?
Bydd cerddoriaeth opera a chlasuron poblogaidd yn llenwi’r stryd, wrth i ganeuon cael eu perfformio’n fyw gan y gantores Jessica Robinson. Bydd y gerddoriaeth yn atseinio o system sain y tu mewn i hen gar amryliw, sy’n werth ei weld. Wrth i’r gerddoriaeth lenwi’r safle, bydd yr artist Seren Stacey a chriw o fyfyrwyr Ysgol Gelf Caerfyrddin yn ymateb drwy ddarlunio â sialc ar y stryd. Bydd yr artistiaid yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ymuno â nhw, i wrando, ac i ymateb yn greadigol wrth iddynt ymgolli yn y gerddoriaeth. Mae croeso mawr i bawb gymryd rhan, i wylio, ac i fwynhau.
Ble?
Os yw’r tywydd yn sych, bydd Soprano a Sialc yn digwydd yn Stryd Nott, tu allan i Gastell Caerfyrddin, rhwng 11yb a 3yp. Os yw’r tywydd yn wlyb, bydd y gweithgareddau’n symud dan do i Siop Nyth, Yr Atom, 16–18 Stryd y Brenin, Caerfyrddin. Felly cofiwch wisgo’n addas, a dod draw i ddweud helô ac i gymryd rhan.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Yn ogystal â’r artistiaid a’r cyhoedd, bydd aelodau Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru, tiwtoriaid Clwb Dawnsio Stryd, Menter Sir Gâr a myfyrwyr o Ysgol Gelf Caerfyrddin, gan gynnwys Mark Dugdale, Amy Davies, Xander Fox Robinson, Ellie Dragone, yn ymuno yn yr hwyl. Bydd y myfyrwyr yn ymateb i’r gerddoriaeth ac yn darlunio delweddau a themâu o’r opera Y Tŵr.
Pam?
Mae’r digwyddiad yn gyfle i ni fel cwmni ddathlu nid yn unig greadigrwydd ein cymuned leol, ac i ddod â phobl ynghyd i fwynhau celfyddyd, ond hefyd i ddathlu ein cynhyrchiad nesaf – Y Tŵr – sy’n mynd â ni i fyd yr opera am y tro cyntaf yn ein hanes. Mae Y Tŵr, opera newydd gan Guto Puw a Gwyneth Glyn, yn seiliedig ar ddrama eiconig Gwenlyn Parry ac yn gyd-gynhyrchiad gyda Music Theatre Wales. Bydd yn agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 19 Mai 2017, cyn mynd ar daith drwy Gymru ac i Ŵyl Buxton yn Swydd Derby.
Beth yw Cer i Greu?
Mae Cer i Greu (Get Creative) yn ymgyrch flynyddol a drefnir gan BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Beth Nesaf, i ddathlu gweithgareddau creadigol sy’n digwydd bob dydd – boed hynny yn y cartref neu’n gyhoeddus. Pwrpas y penwythnos yw annog a chefnogi creadigrwydd ym mhob cwr o Gymru, a chynnig cyfleoedd i bawb – o bob oedran, cefndir a gallu – i ymwneud â’r celfyddydau. Anogir pawb i fynd ati i roi cynnig ar wneud rhywbeth creadigol – p’un ai gartref yn y tŷ neu mewn digwyddiad cyhoeddus. Mae llawer iawn o’r digwyddiadau sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Er bod creadigrwydd a’r celfyddydau o’n cwmpas ar hyd y flwyddyn, nid ydynt yn aml yn cael sylw teilwng yn y cyfryngau, ac nid yw’r rhai sy’n weithgar yn greadigol hyd yn oed yn sylweddoli gwerth llawn yr hyn maen nhw’n ei wneud. Diben Cer i Greu yw creu effaith, dangos gwerth creadigrwydd i bawb, a sbarduno sgwrs genedlaethol am y celfyddydau, creadigrwydd a diwylliant. Am ragor o wybodaeth, ac i weld map a rhestr o ddigwyddiadau ledled Cymru, ewch i wefan Cer i Greu.
Dywedodd Llinos Jones, Arweinydd Soprano a Sialc, a Swyddog Cyfranogi a Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae’n bwysig iawn i ni fel Theatr Genedlaethol wedi’i lleoli yma yng Nghaerfyrddin ein bod yn dod i adnabod ein cymuned, a pha ffordd well na thrwy gynnig gweithgaredd celfyddydol yn rhad ac am ddim, a hwnnw’n agored i bawb ar y stryd. Dwi wir yn edrych ymlaen at gyfarfod pobol newydd, a gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn un llawn bwrlwm, llanast a lliw.”