Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
llygodenyreiraRehearsalskirstenmcternan211

Theatr Genedlaethol Cymru yw un o 50 sefydliad celfyddydol i gael ei ariannu i gynnal Cymrawd drwy Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood.

  • Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer rôl y Cynorthwyydd Datblygu Creadigol yn Theatr Genedlaethol Cymru yn agor ar 20 Hydref 2020.
  • Mae’r rhaglen wedi’i thargedu at ymgeiswyr o grwpiau economaidd-gymdeithasol is, sydd wedi’u tangynrychioli yn sector y celfyddydau a diwylliant

Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal Cymrawd drwy Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood fel rhan o raglen i ddod â mwy o bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is i mewn i yrfaoedd diwylliannol. Ledled y Deyrnas Unedig, bydd 50 cyfle cyffrous i ddatblygu gyrfa yn y celfyddydau, gyda phob swydd yn chwarae rhan bwysig yng ngwaith y sefydliad lletya. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn croesawu ceisiadau ar gyfer Cynorthwyydd Datblygu Creadigol, sef rôl newydd o fewn y tîm artistig, fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Artistig, y Cynhyrchydd Gweithredol a’r Cydlynydd Datblygu Creadigol i gefnogi prosiectau datblygu creadigol y cwmni a helpu i lywio ein rhaglen.

Hyd yn oed cyn i’r pandemig ddinistrio gobeithion gyrfa yn y celfyddydau, roedd y rheiny o gefndiroedd dosbarth canol 2.5 gwaith yn fwy tebygol o weithio mewn swyddi creadigol na’r rheiny o’r dosbarth gweithiol. Nid yw’r sefyllfa hon wedi gwella ers i gofnodion ddechrau yn 2014. Mae symudedd cymdeithasol yn broblem waeth yn y sector diwylliannol a’r diwydiannau creadigol ehangach nag yng ngweddill yr economi yn ei chyfanrwydd. Mae’r diwydiannau creadigol ehangach wedi creu mwy na 300,000 o swyddi dros y pum mlynedd diwethaf, ond dydy nifer y gweithwyr creadigol o gefndiroedd dosbarth gweithiol ddim ond wedi codi tua 33,000. Yn debyg i effaith yr argyfwng ariannol yn 2008, mae disgwyl mai’r rheiny sy’n cael trafferth cael mynediad i’r celfyddydau fydd yn cael eu heffeithio waethaf gan effaith COVID-19.

Nod Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood yw unioni’r fantol drwy ariannu 50 Cymrodoriaeth artistig a chreadigol, cyflogedig am flwyddyn gyfan, yn ogystal â rhaglen datblygu sefydliadol a gynhelir gan people make it work i osod ymarferion cynhwysol yn y sefydliad lletya, gyda thri aelod o’r tîm lletya yn cymryd rhan, gan gynnwys aelod bwrdd ac uwch-swyddog gweithredol.

Dyma’r pedwerydd tro i’r rhaglen gael ei chynnal; mae wedi bod yn rhedeg ers mwy na 10 mlynedd gyda 125 o gyn-aelodau hyd heddiw, a nifer ohonyn nhw wedi datblygu gyrfaoedd llwyddiannus. Dyma’r garfan fwyaf o Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood, gyda chefnogaeth gan Gronfa Gweddnewid Arweinyddiaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Weston, Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, British Council, Jerwood Arts a Sefydliad PRS.

Dywedodd Lilli Geissendorfer, cyfarwyddwr Jerwood Arts:
“Rwyf wrth fy modd bod Theatr Genedlaethol Cymru wedi cael ei dewis i gynnal Cymrawd un o Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood. Ymgeisiodd Theatr Genedlaethol Cymru i fod yn rhan o’r rhaglen cyn i COVID-19 gael ei adnabod, felly mae’n galonogol bod gwneud eu sefydliad yn fwy amrywiol a chynhwysol yn parhau i fod yn uchel ar eu hagenda er gwaetha’r heriau ychwanegol sydd o’u blaenau. Mae’n dangos y gwytnwch sydd wedi fy ysbrydoli o bob cornel o sector y celfyddydau a diwylliant dros y misoedd diwethaf i ddod o hyd i’r cyfleoedd da yn yr amseroedd mwyaf ofnadwy ac i ymrwymo i greu sector cryfach y bydd pawb yn buddio ohono.”

Dywedodd Angharad Jones Leefe, cyfarwyddwr gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o gynllun Ysgoloriaeth Greadigol Weston Jerwood. Ry’n ni wedi ymrwymo i gynyddu cynhwysiant ein gwaith ac ry’n ni’n awyddus iawn i ddarparu llwybrau gwaith yn y celfyddydau i ystod mor eang â phosib o bobl. Mae’r cynllun yma yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni gynnig gwaith i berson ar ddechrau eu gyrfa, a hefyd yn gyfle i ni ddysgu ac esblygu fel sefydliad. Yn yr argyfwng presennol i’r celfyddydau, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod ni’n mynd i’r afael ag anghyfiawnderau yn ein sector a’n cymdeithas, gan ddarparu cyflogaeth a chynyddu ein gwytnwch – ac ry’n ni’n diolch i Weston Jerwood am y cyfle i wneud hynny.”

Mae rhaglen Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-2022 wedi’i dylunio ac yn cael ei chynhyrchu gan Jerwood Arts. Mae’n cael ei hariannu a’i chefnogi gan Gronfa Gweddnewid Arweinyddiaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Garfield Weston, Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, British Council, Jerwood Arts a Sefydliad PRS.

Mae rhagor o wybodaeth am y swydd hon, gan gynnwys pecyn recriwtio, ar gael yma.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Jones Leefe yn Theatr Genedlaethol Cymru ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554

Categorïau: Newyddion Awdur: Ceri Williams

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government