Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi eu bod wedi croesawu tri aelod newydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni’n ddiweddar. Penodwyd Catherine Rees, Gwyn Williams a Meilir Rhys Williams ym mis Chwefror eleni, ac fe ddaeth y tri i’w cyfarfod cyntaf swyddogol o’r Bwrdd ar y 9fed o Fehefin. Dewch i gwrdd â’n haelodau newydd . . .
Catherine Rees
Mae Catherine Rees yn Uwch Reolwr Materion Corfforaethol ac Adnoddau Dynol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ei meysydd arbenigedd yw Adnoddau Dynol a Llywodraethiant, ac enillodd Wobr Adnoddau Dynol Cymru am y defnydd gorau o’r iaith Gymraeg mewn adnoddau dynol yn 2017.
Magwyd Catherine ym mhentref y Pwll, ger Llanelli, a graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Ar ôl gweithio fel Swyddog Gyrfaoedd yng Nghasnewydd, ac fel cynhyrchydd rhaglenni radio gyda BBC Radio Cymru yn Abertawe, aeth Catherine a’r teulu i fyw dramor yn yr Iseldiroedd ac yna yn Unol Daleithiau America. Wedi dychwelyd i Gymru dechreuodd weithio i’r cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes fel ymchwilydd, rheolwr prosiect, cyfarwyddwr ac yna fel Dirprwy Brif Weithredwr, gan ganolbwyntio’n benodol ar Adnoddau Dynol a rheoli prosiectau. Gweithiodd gyda llu o gwmnïau a sefydliadau i’w cynorthwyo i ddatblygu eu busnes. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg hyd 2012. Mae’n byw yng Nghaerfyrddin erbyn hyn, ond gan barhau i gadw un droed yn Llanelli.
Gwyn Williams
Gwyn Williams yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C. Ar ôl gweithio yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn am flwyddyn, dechreuodd Gwyn ei yrfa yn y cyfryngau gan weithio i BBC Radio Cymru ym Mangor. Wedi hynny bu’n gweithio i Newyddion 7 a Hel Straeon cyn sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun. Roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, ac yna’n brif weithredwr cwmni adnoddau Barcud yng Nghaernarfon. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu gyda Chomisiynydd y Gymraeg, gan ymuno ag S4C fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn 2015.
Meilir Rhys Williams
Actor o Lanuwchllyn yw Meilir Rhys Williams. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd O. M. Edwards, Llanuwchllyn, ac Ysgol Uwchradd y Berwyn, Y Bala. Penderfynodd ddilyn gyrfa fel actor ar ôl mynychu cwrs haf Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2006. Astudiodd ddiploma mewn Astudiaethau Perfformio yn y Liverpool Institute for Performing Arts yn 2007, cyn graddio o’r Royal Central School of Speech and Drama yn 2010 gyda BA mewn Actio.
Ers iddo raddio, mae Meilir wedi perfformio gyda sawl cwmni theatr yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru yn ‘Y Storm’ a ‘Deffro’r Gwanwyn’. Yn ogystal, ymddangosodd ar y sgrin fach mewn nifer o raglenni, a bellach fe’i gwelir yn gyson ar y gyfres deledu boblogaidd, ‘Rownd a Rownd’ fel y cymeriad Rhys.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae’r tri yn dod â chyfoeth o arbenigedd a phrofiadau amrywiol i’w canlyn – o feysydd adnoddau dynol a llywodraethiant, i gyfathrebu a marchnata, a pherfformio. Byddant yn gaffaeliad mawr i’r Bwrdd.”
Croesawn y tri ar ddechrau cyfnod cyffrous i Theatr Genedlaethol Cymru. Dewch i nabod gweddill aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr a staff y cwmni drwy glicio yma.