Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Gwyl Hanes Cymru i Blant

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gefnogi Gŵyl Hanes Cymru i Blant, 2018. Gŵyl yw hon sy’n trefnu a llwyfannu digwyddiadau a chyflwyniadau un-actor i blant mewn lleoliadau treftadaeth ar draws Cymru ym mis Medi. Fel rhan o’n cefnogaeth, mae Sarah Bickerton, ein Cyfarwyddwr Cyswllt, wedi cyfarwyddo drama fer un-actor i blant am yr Arglwyddes Llanofer, sef Pleidiol Wyf i’m Gwlân gan Mared Roberts, a fydd yn cael ei pherfformio yn yr Amgueddfa Wlân, Drefach Felindre, rhwng 17 a 21 Medi. Mae Pleidiol Wyf i’m Gwlân, a berfformir gan Catrin Morgan, yn adrodd hanes y wisg Gymreig draddodiadol a thwf y diwydiant gwlân yng Nghymru.

Mae Pleidiol Wyf i’m Gwlân yn un o 5 sioe newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl, ac yn ogystal â drama Mared Roberts bydd dramâu gan Mirain Alaw Jones, Iestyn Wyn, Lois Llywelyn Williams a Sion Emyr yn cael eu perfformio. Mae’r holl ddramâu’n adrodd straeon o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol ac yn ymdrin â chymeriadau pwysig a dylanwadol yn hanes Cymru: Dic Penderyn, y Copor Ladis, Thomas Telford, a David Davies Llandinam. Ceir manylion llawn y perfformiadau yma.

catrin

Hyforddwyd 12 o ddramodwyr ifainc i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o ysgrifennu dramâu byrion i blant, a chynhaliwyd cyfres o weithdai lle roedd ein Cyfarwyddwr Artistig, Arwel Gruffydd, a’n Cyfarwyddwr Cyswllt, Sarah Bickerton, yn bresennol. Rydym wedi cydweithio gyda’r dramodwyr ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chynnig adborth ar ddatblygiad eu gwaith.

Meddai Eleri Twynog, sylfaenydd yr ŵyl:

“Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda chymaint o dalent ifanc eleni yn datblygu dramâu newydd, ar bynciau’n ymwneud â hanes Cymru, ar gyfer yr ŵyl. Mae’r cynllun hyfforddiant i awduron ifanc wedi bod yn llwyddiant mawr, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl bartneriaid wnaeth gofleidio’r syniad gan gyfrannu’n ariannol ac yn greadigol. Mae gennym 12 o sgriptiau newydd, pob un ohonynt ar wahanol agweddau o’r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, ac yn dilyn llwyfannu 5 o’r rhain eleni y nod fydd cynhyrchu gweddill y sgriptiau ar gyfer gŵyl 2019/20.”

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae’r prosiect hynod hwn wedi bod yn fodd i Theatr Genedlaethol Cymru adnabod dramodwyr ifainc a meithrin talent ysgrifennu newydd. Mae hefyd yn golygu bod dramodwyr newydd nid yn unig wedi derbyn hyfforddiant a mentoriaeth broffesiynol, ond hefyd yn cael cyfle i weld eu gwaith yn cael ei gyfarwyddo a’i berfformio gan artistiaid proffesiynol o flaen plant – sef y gynulleidfa fwyaf gonest ac uniongyrchol ei barn a’i gwerthfawrogiad. Mae sawl dramodydd o fri wedi cychwyn ar yrfa broffesiynol yn y theatr trwy ysgrifennu yn gyntaf fonologau neu ddramâu ar gyfer plant. Mae safon uchel y monologau yn arwydd o’r hyn y gallwn ei ddisgwyl gan y dramodwyr newydd yma i’r dyfodol. Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen yn fawr at weld y sgriptiau yn troi’n sioeau llawn hud a chyffro, wrth i rai o hanesion cymeriadau mwyaf dylanwadol a lliwgar y Chwyldro Diwydiannol ddod yn fyw i gynulleidfaoedd ifainc ar draws Cymru.”

Mae disgwyl i oddeutu 5,000 o blant fod yn rhan o’r ŵyl eleni, ac mae’r amserlen lawn ar wefan yr ŵyl.

Rydym yn cefnogi’r cynllun eleni ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, yr Urdd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Cadw.

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Gobeithio i chi gyd lwyddo i fachu cusan fach ar ddydd Santes Dwynwen heddi! ❤ Hands up who's nabbed a little kiss… https://t.co/UjSyOfmS1905:00 25/01/2021
  • MACBETH Ar gael o 7pm nos Fercher 27 Ionawr. Capsiynau Caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael. Available from 7pm Wedn… https://t.co/fKdnHaypgM10:34 25/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government