Theatr Gen Eto
Gyda bod ein theatrau ar hyn o bryd wedi gorfod cau eu drysau, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi lansio Theatr Gen Eto i roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r cwmni ar sgrin. Gan ryddhau cynnwys o’i archif helaeth, bydd y cwmni’n rhannu nifer o’i gynyrchiadau o’r gorffennol ar ei sianel YouTube a hefyd ar blatfform digidol newydd AM (ar-lein ar amam.cymru neu drwy lawrlwytho’r ap ar amam.cymru/ambobdim) er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol, gan sicrhau fod arlwy Gymraeg ei hiaith ar gael ar-lein, ochr yn ochr ac arlwy iaith Saesneg sy’n prysur dyfu.
CC Bydd Capsiynau Caeedig yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael yn achos rhai o’r dangosiadau hyn, ac mae modd dilyn cyfarwyddiadau i osod y Capsiynau Caeedig ar gael yma.
Ers mis Ebrill 2020, rhyddhawyd nifer o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru fel rhan o gyfres Theatr Gen Eto. Roedd y rhaglen yn cynnwys Llygoden yr Eira; Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams, Mrs Reynolds a’r Cena Bach gan Gary Owen, trosiad gan Meic Povey; Bachu gan Melangell Dolma; Estron gan Hefin Robinson; Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos; ac X gan Rhydian Gwyn Lewis.
Cadwch lygad ar y dudalen hon am wybodaeth ynghylch y cynyrchiadau eraill y byddwn ni’n eu rhyddhau ar-lein yn y dyfodol agos!
Y Tŵr
gan Guto Puw
Libreto gan Gwyneth Glyn
Yn seiliedig ar y ddrama gan Gwenlyn Parry
Ar gael o 14 Ebrill 2021
Cynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei gyflwyno’n wreiddiol gan Theatr y Sherman a Gŵyl Bro Morgannwg 2017
Yn Y Tŵr cawn stori oesol gyffredin am fywyd a chariad yn seiliedig ar waith un o ddramodwyr pwysicaf Cymru. Gan archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd, daw drama enwog Gwenlyn Parry yn fyw unwaith eto, ond, y tro hwn, ar ffurf opera newydd, deimladwy a thelynegol gan y cyfansoddwr Guto Puw a’r gantores, cyfansoddwraig a dramodydd, Gwyneth Glyn.
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Bydd Y Tŵr ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 14 Ebrill 2021.
Blodeuwedd
gan Saunders Lewis
Ar gael o 3 Mawrth 2021
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â CADW a Pharc Cenedlaethol Eryri
Mae Blodeuwedd yn anniddig, a Llew yn anfodlon. Er iddo drechu tynged ei fam, a chael gwraig wedi’i chreu o flodau, mae’n dal i ysu am etifedd. Ac mae Blodeuwedd yn teimlo fel carcharor yn ei chartref ei hun. Pan syrthia Gronw Pebr mewn cariad â hi, daw cyfle o’r diwedd i ddianc. Ond rhaid yn gyntaf ladd Llew.
Dyma gyfle i weld y cynhyrchiad awyr agored hwn wedi’i berfformio yn Nhomen y Mur – cartref chwedlonol arwres y ddrama.
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddefnyddio cyfieithiad nodedig y diweddar Siôn Eirian, Blodeuwedd, The Woman of Flowers (1992).
Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Bydd Blodeuwedd ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 3 Mawrth 2021.
Macbeth
Cyfieithiad Gwyn Thomas o glasur Shakespeare
Ar gael o 27 Ionawr
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth gyda CADW a gyda chefnogaeth gan Chapter.
Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi proffwydo i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan mae ei wraig ddidrugaredd yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n frwydr waedlyd.
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Bydd Macbeth ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 27 Ionawr 2021.
Comisiynau Digidol Newydd
Yn ystod y Clo Mawr, ar y cyd â’r tîm yn National Theatre Wales, ac mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts, fe gomisiynwyd artistiaid theatr Cymru i greu theatr fyw ar blatfformau digidol. Gwahoddwyd artistiaid theatr Cymru i greu ymatebion dyfeisgar a chyffrous i’r her hon ac i helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a’u gwneuthurwyr theatr ddod at ei gilydd er ein bod ni ar wahân. Rydyn ni’n falch iawn o roi cyfle arall i chi wylio ein Comisiynau Digidol Newydd – cynyrchiadau arloesol a gafodd eu creu dan amodau ymbellhau cymdeithasol, mewn ymateb i’r argyfwng presennol.
Fy Ynys Las
gan Eddie Ladd
Ar gael o 21 Hydref
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts
Does unman yn debyg i gartref. Ond sut mae dod i ’nabod y lle arbennig hwnnw go iawn?
Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae Eddie Ladd, yr artist a’r berfformwraig arobryn, wedi symud gartref i fyw gyda’i mam ar y fferm lle cafodd ei magu – Maesglas. Ym mhob twll a chornel o’r llecyn rhyfeddol hwn – y ffermdy, y beudy, y clôs a’r tŷ tato – mae Eddie yn ail-ymweld â hanes y teulu, straeon y gymuned leol, ac atgofion am ei gyrfa hir ac amrywiol ei hun.
Dewch ar daith rithiol gydag Eddie wrth iddi roi bywyd o’r newydd i’w gorffennol. O gartref Eddie i’ch cartrefi chi, dyma gipolwg unigryw ar fywyd yng nghefn gwlad Cymru mewn cyfnod o bandemig.
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Bydd Fy Ynys Las ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 21 Hydref 2020.

Er Cofid 19
gan Er Cof
Ar gael o 21 Hydref
4 Ffrind. 6 Awr. Cannoedd o Eiriau. Dyma Er Cofid 19.
O gwisiau Zoom i sesiynau ffitrwydd ar-lein, o weithio o’r ’stafell sbâr i glywed fersiwn annisgwyl o Calon Lân – dyma ein normalrwydd newydd.
Yn y perfformiad digidol cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg, ymunwch â phedwar ffrind dan glo, wrth iddynt ladd amser, pryfocio a rhoi’r byd yn ei le. Dewch ac ewch (a dewch yn ôl!) fel y mynnwch – tra’n eistedd yn yr ardd, tra’n coginio swper neu tra’n llenwi’r bath. Bydd y pedair yna i’ch herio a’ch diddanu mewn marathon theatraidd.
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Bydd Er Cofid 19 ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 21 Hydref 2020.

O Ben’groes at Droed Amser
gan Karen Owen
gyda Maggie Ogunbanwo
Ar gael o 21 Hydref
Dau ffrind, hanner awr o daith, llu o atgofion – a’r cyfan y tu ôl i fasgiau mewn cyfnod o bandemig byd-eang.
Ymunwch â’r awdur a’r bardd Karen Owen wrth iddi gamu ar fws a chychwyn ar daith o’i chartref, a’r stryd lle y’i magwyd, at y cloc yn sgwâr Bangor. Yn cadw cwmni i Karen ar ei phererindod bersonol, mae Maggie Ogunbanwo; yn wreiddiol o Lagos, Nigeria, mae Maggie yn rhedeg ei busnes bwyd llwyddiannus o dafarn Y Red Lion ym Mhenygroes.
Dim ond ryw hanner awr yw’r daith fws ei hun, ond mae’n cwmpasu oes gyfan i Karen – o’i phlentyndod i goleg, heibio’r ysbyty a thafarndai – ac mae’r cyfan yn gwibio heibio wrth i Karen a Maggie drafod eu gwreiddiau a phrofiadau bywyd amrywiol… am gariad, am berthyn, am hiliaeth ac am faddau.
Cyfarwyddwr Beca Brown
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Bydd Estron ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 21 Hydref 2020.
