Helô! Llinos ydw i, a dwi’n gweithio fel Swyddog Marchnata a Chyfranogi efo Theatr Genedlaethol Cymru. Er fy mod yn hanu’n wreiddiol o Ben Llŷn, dwi wedi teithio i’r de i gael blas ar fywyd fel hwntw ac i ddatblygu’n broffesiynol efo’r cwmni. Fel un sydd wrth ei bodd ym myd y theatr, dwi’n teimlo’n wirioneddol ffodus o gael cyfle i weithio mewn maes dwi’n ei garu. Mae bob dydd yn hectig, o 7 y bore pan dwi’n codi i fwydo mwnci bach tŷ ni, tan 8 y nos pan mae’n bryd swatio i wylio Pobol y Cwm!