Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Merch yr Eog / Merc'h an Eog

Taith Hydref 2016

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi taith Merch yr Eog, cynhyrchiad amlieithog fydd yn teithio yng Nghymru, Lloegr a Llydaw yn nhymor yr Hydref 2016. Mae Merch yr Eog yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, Llydaw, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd y ddrama, sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges, yn gynhyrchiad amlieithog a fydd yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg. Cyfarwyddwyr y ddrama yw Thomas Cloarec (Teatr Piba) a Sara Lloyd (Theatr Genedlaethol Cymru), ac fe fydd yn cynnwys actorion o Gymru ac Ffrainc. Bydd Merch yr Eog yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 5 Hydref 2016. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru gydweithio â chwmni o dramor ar gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac a fydd yn teithio tair gwlad.

Meddai Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru, ac un o Gyfarwyddwyr Merch yr Eog:

“Mae hwn yn brosiect hynod o gyffrous i fod yn rhan ohono ac i’w gyd-gyfarwyddo. Rydym wedi bod yn datblygu’r gwaith ers tair blynedd, sydd wedi golygu cyfnodau preswyl yma yng Nghymru a draw yn Llydaw. Mae’n bleser cael gweithio gyda’r tîm o Lydaw ac rydym yn dysgu llawer oddi wrth ein gilydd. Bydd y ddrama’n cael ei chyflwyno mewn tair iaith (wel, pedair i gyd, o gynnwys hefyd iaith Creole), ac mae hynny, wrth gwrs, yn dipyn o her, ond ar yr un pryd, yn teimlo’n gyffrous i’w gyfarwyddo. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn yr ymarferion ym mis Medi yn Aberystwyth cyn teithio’r ddrama wedyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru, De Orllewin Lloegr a Llydaw.”

Bydd gofyn i’r gynulleidfa Gymraeg lawrlwytho ap Sibrwd er mwyn dilyn rhannau o’r ddrama sydd mewn Llydaweg a Ffrangeg (a Creole). Hyd yn hyn, defnyddiwyd Sibrwd ar gyfer cynulleidfaoedd di-Gymraeg y cwmni, ac mae hyn yn gam mawr ymlaen yn natblygiad yr adnodd. Bydd y cyfan hefyd ar gael, trwy gyfrwng Sibrwd, yn y Saesneg a’r Ffrangeg.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae’r cynhyrchiad arloesol hwn yn benllanw blynyddoedd o drafod a chydweithio gyda’r cwmni hwn o Lydaw, sy’n arbenigo mewn creu cynyrchiadau theatr cyfoes yn y Llydaweg. Rydym ni hefyd fel cwmni’n torri tir newydd wrth gyflwyno Sibrwd i’n cynulleidfa gyfan am y tro cyntaf. Bydd gofyn i bawb sy’n gwylio’r sioe ddilyn Sibrwd er mwyn cael cyfieithiad o’r ieithoedd eraill sydd wedi eu cynnwys yn y ddrama, a hynny yma yng Nghymru, yn Plymouth ac yn Llydaw. Bydd Sibrwd yn cynnwys cyfieithiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Saesneg. Bydd yn brofiad newydd i lawer o’n cynulleidfa i ddefnyddio Sibrwd, a byddwn yn darparu cyfarwyddiadau manwl ar gyfer pawb o flaen llaw a bydd tîm o bobl ym mhob canolfan i roi cymorth i’r gynulleidfa.”

Pan gaiff Mair ei galw adref i angladd yng Nghymru, mae’n dioddef pwl anghyfarwydd o hiraeth, ac mae’r sôn am werthu’r fferm deuluol yn corddi teimladau o gyfrifoldeb a dyletswydd ynddi. Mae hi bellach yn cwestiynu dedwyddwch ei bywyd dinesig yn Llydaw, a’i pherthynas gyda’i chariad, Loeiza. ’Dyw ei bywyd yno erioed wedi teimlo mor bell o gefn gwlad Gorllewin Cymru. A hithau’n gorfod wynebu’r penderfyniad mwyaf anodd iddi erioed, daw cymydog caredig ag anrheg anghyffredin iddi. Ai dyma’r arwydd y mae hi wedi bod yn ei geisio?

-diwedd-

Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu tocynnau i’r wasg, cysylltwch â Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru, lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617 / 07903 842617

Yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourgès.

Cyfarwyddo: Sara Lloyd, Thomas Cloarec

Dyddiadau:

19:30
05–07 Hydref

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623 232

19:30
11 a 12 Hydref

Pontio, Bangor
www.pontio.co.uk / 01248 38 28 28

19:30
14 Hydref
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
01758 704088

19:30
17 Hydref

Galeri, Caernarfon
www.galericaernarfon.com / 01286 685 222

19:30
20 a 21 Hydref

Y Lyric, Caerfyrddin
www.theatrausirgar.co.uk / 0845 226 3510

20:00
25 a 26 Hydref

Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
www.wmc.org.uk / 029 2063 6464

19:30
29 Hydref

The House, Plymouth
https://peninsula-arts.cloudvenue.co.uk/home / 01752 585050

3 a 4 Tachwedd
L’Arthémuse, Briec, Llydaw

15 Tachwedd
Le Théâtre du Champ au Roy, Guingamp, Llydaw

17+18 Tachwedd
La Maison du Théâtre, Brest, Llydaw

24 Tachwedd
Le Théâtre du Pays de Morlaix, Llydaw

Categorïau: Newyddion Awdur: Lowri Johnston

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Gobeithio i chi gyd lwyddo i fachu cusan fach ar ddydd Santes Dwynwen heddi! ❤ Hands up who's nabbed a little kiss… https://t.co/UjSyOfmS1905:00 25/01/2021
  • MACBETH Ar gael o 7pm nos Fercher 27 Ionawr. Capsiynau Caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael. Available from 7pm Wedn… https://t.co/fKdnHaypgM10:34 25/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government