{150}, cynhyrchiad aml-blatfform wedi ei greu gan yr artist Marc Rees, yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol yn Aberdâr, Mehefin-Gorffennaf 2015.
Bydd dau gwmni theatr cenedlaethol Cymru yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf, gydag un o’n prif artisiaid theatr, Marc Rees, i adrodd stori wir, arwrol, llawn antur.
Yn 1865, fe ymadawodd 150 o ddynion, menywod a phlant â Chymru i chwilio am fywyd gwell ym Mhatagonia, De America. Bydd y cynhyrchiad aml-blatfform hwn – a berfformir yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg, ac sy’n cynnwys digwyddiadau byw a ffilm – yn adrodd hanes rhai o uchafbwyntiau eu taith anhygoel, ac yn mynd ar drywydd eu disgynyddion yn Y Wladfa heddiw.
Bydd {150} yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr, adeilad enfawr nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Bydd y perfformwyr yn cynnwys: Gareth Aled, Rosalind Brooks, Dafydd Emyr, Angharad Harop, Eddie Ladd, Beth Powlesland, Caroline Sabin a Lara Ward, yn ogystal â pherfformwyr gwâdd Billy Hughes a Fernando Williams o’r Ariannin.
Wedi’i integreiddio yn y perfformiad byw bydd darnau o ffilm sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig gan S4C, ac wedi ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones. Mi gaiff y ffilm, sydd wedi’i chynhyrchu gan Joio, ei darlledu’n llawn ar S4C ar ddiwedd mis Gorffennaf 2015.
Mae Marc Rees yn artist amlgyfrwng creadigol ac mae wedi gwneud enw i’w hunan trwy greu prosiectau sydd yn gwthio ffiniau, yn torri tir newydd yn procio’r dychymyg. Adain Avion oedd prosiect mwyaf uchelgeisiol Rees hyd yma, ac fe gafodd ei ddewis fel y prosiect oedd yn cynrychioli Cymru yn Olympiad Celfyddydol Llundain 2012 a Gŵyl Llundain 2012. Tir Sir Gâr, ei gynhyrchiad gyda’r awdur Roger Williams ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru oedd y cynhyrchiad a dderbyniodd y mwyaf o enwebiadau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014, gyda phump enwebiad. Yn 2014, fe ail-ddychmygoedd fyd Under Milk Wood, Raw Material: Llareggub Revisited ar gyfer NTW a BBC Cymru oedd yn dod â thref Talacharn ynghyd yn rhan o’r Ŵyl DT 100. Mae hefyd yn creu a churadu LLAWN (Penwythnos Celfyddydol Llandudno), gŵyl blynyddol sydd yn dathlu etifeddiaeth y dref Fictorianaidd ger y môr.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn creu naratif cenedlaethol sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru, a hynny trwy greu theatr arloesol a chynyrchiadau uchelgeisiol trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt – ar brif lwyfannau, mewn lleoliadau annisgwyl, ac yng nghalon ein cymunedau. Mae’r cwmni – a leolir yng Nghaerfyrddin – hefyd yn cynnig gweithdai a rhaglen gynhwysfawr o waith gyda chymunedau, ac yn darparu adnoddau ar gyfer y sector theatr yng Nghymru. www.theatr.cymru
Mae National Theatre Wales wedi bod yn creu cynhyrchiadau Saesneg eu hiaith mewn lleoliadau ar draws Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers Mawrth 2010. Mae’r cwmni yn gweithredu o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond maent hefyd yn gweithio dros y wlad i gyd, a thu hwnt, gan ddefnyddio tirwedd gyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi a’i phentrefi, ei straeon anhygoel a’i thalent gyfoethog fel ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales. nationaltheatrewales.org
S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd. Mae’r arlwy yn cynnig rhaglenni o feysydd amrywiol, gan gynnwys dramâu a dogfennau uchel ei bri. Drwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae S4C yn rhoi sylw i nifer eang o ddigwyddiadau diwylliannol gyda chynyrchiadau theatr a cherddoriaeth yn eu plith, yn ogystal â chyd-weithio er mwyn creu cynnwys gwreiddiol i’w ddarlledu ar y sianel.
Gwybodaeth llawn:
{150}
Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales mewn cydweithrediad ag S4C
Dyddiadau: 27 Mehefin – 11 Gorffennaf 2015 (heblaw dydd Sul)
Amseroedd: 7pm, ac 1pm ar 11 Gorffennaf
Lleoliad: Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol, Stâd Ddiwydiannol Aberaman, Abercwmboi, Aberdâr.
Crëwr a Chyfarwyddwr: Marc Rees
Cynhyrchydd Creadigol: Siân Thomas
Awdur Ffilm: Roger Williams
Cyfarwyddwr Ffilm: Lee Haven Jones
Hanesydd Cymdeithasol: Fernando Williams
Cyfansoddwr: John Hardy Music
Cynllunydd Goleuo: Nick Mumford
Cynllunydd Sain: Mike Beer
Cynllunydd Fideo: Ethan Forde
Cynllunydd Gwisgoedd: Angharad Matthews
Cynllunydd Cyswllt: Cordi Ashwell
Cyfarwyddwr Cyswllt: Llinos Mai
Coreograffydd: Angharad Harop
Gyda diolch i’r Tŷ Opera Brenhinol a Melin Tregwynt
Swyddfa docynnau: www.wmc.org.uk
Archebu dros y ffôn: 029 2063 6464
Prisiau tocynnau: £10-£17.50