Mewn ychydig dros bythefnos bydd Dawns Ysbrydion yn cychwyn taith o amgylch Cymru, yn dilyn llwyddiant yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni. Cawsom air gydag Anna ap Robert, un o ddawnswyr y cynhyrchiad cyn i’r ymarferion gychwyn…
Pryd oedd y tro cyntaf i ti ddawnsio?
Dw i’n credu mod i’n dawnsio yn y groth, ond 8 oed o’n i pan ddechreues i gael gwersi.
Pam dewis dawnsio?
Dw i’n mwynhau dawnsio a dw i wastad wedi bod wrth fy modd yn perfformio. Pob cyfle o’n i’n gael fel plentyn, yn fy arddegau ac fel oedolyn – dw i wedi ei gymryd. Mae’n gyfrwng creadigol mynegiannol sy’n rhoi cyfle i mi fynegi rhywbeth am fy hunaniaeth.
Beth oedd y peth gora am ŵyl Caeredin?
Perfformio, cyfle i weld perfformiadau eraill (Caitlin yn arbennig), clywed gorchmynion Angharad – y Pennaeth Cynhyrchu – wrth i ni glirio’r set yn barod i’r cynhyrchiad nesaf, e.e. “Mopo!” bwyta mas, y cwmni difyr a’r hwyl!
Wyt ti’n edrych ymlaen at y daith?
Methu aros! Un o fy uchelgeisiau i oedd perfformio’n broffesiynol a theithio theatrau Cymru – a dyma fi’n gwireddu hynny – mewn sioe sy’n ymdrîn â’n diwylliant a’n hiaith a’n hunaniaeth trwy gyfrwng theatr gorfforol a dawns. Mae’r cyfryngau hyn yn llwyddo i ddweud mwy na geiriau am bwy ydyn ni ac yn llwyddo i’n diffinio ni yn ein holl gymhlethdod. Mae’r her gorfforol yn y perfformiad yn gyfystyr â’r her sydd yn ein hwynebu ni fel Cymry yn ein bywydau bob dydd. Dw i’n teimlo’n hynod falch o gael gweithio gydag Eddie Ladd a Theatr Genedlaethol Cymru ac yn edrych ymlaen, er yn nerfus braidd i weld ymateb ein cynulleidfaoedd.
Be gest di i swper neithiwr?
Salad cyw iâr, caws perl wen, siytni a bara ceirch a glasied mawr o win coch!