Er pan o’n i’n ifanc iawn, mae drama wedi bod yn rhan fawr iawn o ’mywyd bob dydd, ac rwyf bellach wrth fy modd yn rhoi blas ar ddrama i blant yn y gymuned. Maen nhw’n cael cyfle i brofi ac i ddarganfod creadigrwydd, a ffordd o fynegi eu hunain, drwy waith drama, byrfyfyrio a chreu cymeriadau newydd.
Dyma’n union ddigwyddodd yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi ddydd Mercher 29 Medi. Roedd ysgolion y fro yn cael sesiynau creadigol yn y castell, gyda thros 200 o blant yno drwy’r dydd. Cafodd Theatr Genedlaethol Cymru wahoddiad i gymryd rhan yn y gweithgareddau, a phleser pur oedd bod yn rhan o’r diwrnod.
Cefais lawer o fwynhad wrth weithio gyda’r bobl ifanc yn datblygu cymeriadau newydd, a braf iawn oedd gweld y plant yn mwynhau ac yn rhoi eu stamp eu hunain ar y gwaith.
Felly diolch yn fawr iawn i Ŵyl y Cynhaeaf am greu a threfnu’r digwyddiad hwn, sy’n rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a’r gymuned gyfan ddod ynghyd i ddathlu creadigrwydd drwy’r iaith Gymraeg.