Yn sgîl y sefyllfa bresennol o gylch COVID-19 (Coronafirws), ochr yn ochr â’n cyd-gynhyrchwyr a phartneriaid, Criw Brwd, Theatr Soar a The Other Room, mae’n ddrwg gennym gyhoeddi ein bod wedi penderfynu canslo taith genedlaethol Pryd Mae’r Haf? fis Ebrill a Mai.
Yn y cyfnod digynsail hwn, ein blaenoriaeth yw iechyd a lles ein cynulleidfaoedd, actorion, tîm cynhyrchu a staff; a gyda hynny mewn golwg, ni fyddwn yn parhau gyda’r ymarferion na’r daith a oedd i ddilyn o’r cynhyrchiad hwn.
Os oes gennych docynnau i weld Pryd Mae’r Haf?, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â’r swyddfa docynnau yn eich canolfan leol.
Diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn. Roeddem wrth ein bodd gyda’r ymateb cynnes i’r perfformiadau agoriadol fis Chwefror a gobeithiwn ddod â Pryd Mae’r Haf? i gynulleidfa ehangach yn y dyfodol.