Dwi’n gweithio’n llawn amser ac yn mwynhau’n fawr iawn. Ar ôl gweld bod y cwmni’n chwilio am brentis, penderfynais neidio am y cyfle gwych yma, a dechreuais ar y gwaith ym mis Hydref 2017.
Ers dechrau’r brentisiaeth, dwi wedi gwneud llwythi o wahanol swyddi. Un o’r prif bethau ydi rhoi help llaw i bawb o’r adran gynhyrchu efo unrhyw waith sydd angen ei wneud. Ambell ddiwrnod fe fydda i’n gweithio yn y swyddfa, yn paratoi amryw o gynlluniau ar gyfer gwahanol gynyrchiadau neu gwaith dydd i ddydd yr adran; bryd arall, fe fydda i allan yn y ‘Shed’ yn paratoi offer technegol ar gyfer ein cynyrchiadau ni, neu ar gyfer pobl/cwmnioedd sydd yn llogi offer wrthom.
Mae awyrgylch da yma yn Y Llwyfan, ac mae tîm Theatr Genedlaethol Cymru yn griw agos a gweithgar iawn. Mae yna 12 ohonon ni’n gweithio yma yng Nghaerfyrddin, ac rydan ni fel un teulu mawr. Mi fydda’i hefyd yn gweithio’n agos gyda’r pum prentis arall dros y flwyddyn nesaf – maen nhw’n gweithio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Canolfan y Mileniwm a WNO yng Nghaerdydd, mae’r canolfannau yma hefyd yn rhan o’r rhaglen brentisiaeth.
Mae’r brentisiaeth yn cael ei rhedeg gan Ganolfan y Mileniwm a Choleg Caerdydd a’r Fro. Mae’r cwrs yn flwyddyn o hyd, yn fuddiol iawn, ac yn gyfle gwych i unigolion sydd eisiau gweithio ym myd y theatr.
Os yn llwyddiannus, byddaf yn derbyn cymwysterau da ar gyfer swyddi ym maes gwaith cefn llwyfan. Dwi’n gweithio ar bortffolio, sef Tystysgrif Lefel 3 mewn goleuo, sain a gwaith llwyfan. Yn ogystal â hyn rydyn ni’n gweithio tuag at dderbyn cymhwyster ‘ABBT Bronze award safety certificate’. Mae’r ddau gwrs yn dda iawn, ac mae eu gwneud fel rhan o brentisiaeth yn y gweithle yn wych.
O fewn y byd technegol, mae prinder a galw mawr am bobl sy’n medru’r Gymraeg ac sydd wedi eu hyfforddi i wneud gwaith cefn llwyfan. Mae gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu fel unigolyn proffesiynol, a braf fyddai gweld mwy o bobl yn ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Y dyddiau hyn, mae galw mawr am dechnegwyr cefn llwyfan, a does dim digon ohonyn nhw yn y maes!