Rydym ni a Theatr y Sherman yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cyd-gynhyrchu’r perfformiadau cyntaf yn y byd o ddrama newydd Daf James, sef Tylwyth, a fydd yn agor yn Theatr y Sherman cyn teithio i theatrau ledled Cymru.
Mae Tylwyth yn ddrama newydd ffraeth a gogleisiol sy’n dod â chymeriadau poblogaidd y ddrama arobryn Llwyth ynghyd unwaith eto, ddeng mlynedd wedi i’r ffenomen ddiwylliannol Gymraeg honno gyrraedd ein llwyfannau am y tro cyntaf. Gan gymryd golwg grafog ar fywyd, teulu a chyfeillgarwch, mae hi’n cynnig sylwebaeth bryfoclyd ar y Gymru gyfoes trwy ddilyn hynt a helynt criw o ffrindiau hoyw sy’n byw yng Nghaerdydd.
Yn Tylwyth, bydd Simon Watts, Danny Grehan a Michael Humphreys yn dychwelyd i’w rhannau gwreiddiol, ynghyd â tri aelod newydd i’r cast, yn cynnwys Martin Thomas ac Arwel Davies. Caiff y ddrama ei chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, ein Cyfarwyddwr Artistig ni yma yn Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr gwreiddiol Llwyth.
Mae Daf James yn ddramodydd, sgriptiwr, cyfansoddwr a pherfformiwr hynod lwyddiannus, ac yn Artist Cyswllt Theatr y Sherman. Llwyddodd Llwyth – drama lawn gyntaf Daf – i’w sefydlu fel un o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru. Mae ei waith diweddar arall i’r theatr yn cynnwys On the Other Hand, We’re Happy, a gynhyrchwyd gan Paines Plough a Theatr Clwyd; mae ef hefyd yn rhan o Raglen Dramodwyr y BBC 2019. Dywedodd Daf: “Roedd Llwyth yn ddrama bwysig ofnadwy i fi’n bersonol ac yn wleidyddol. Freuddwydies i fyth y bydde hi’n cael yr ymateb na’r bywyd hirhoedlog gafodd hi, a bennu lan yn Nhaipei! Erbyn hyn, mae gwleidyddiaeth Cymru a’r byd hoyw wedi newid gryn dipyn ers y ddrama wreiddiol; heb son amdana i, ers i mi ddod yn dad. Ro’n i ar dân felly, moyn sgwennu ail ran i Llwyth, yn ymateb i rai o’r newidiadau hynny. Yn enwedig gan i gymeriadau Llwyth barhau i fyw a thyfu yn fy nychymyg ar ôl iddynt ymadael â’r llwyfan. Cronicl personol yw Tylwyth, ond mae’n rhan o naratif diwylliannol ehangach sy’n dal i esblygu. Mae gan bawb ei stori. Mae’n wirioneddol fraint felly, cael y cyfle hwn i rannu fy un i gyda ffans y ddrama wreiddiol yn ogystal â chynulleidfaoedd newydd.”
Dywedodd Arwel Gruffydd, ein Cyfarwyddwr Artistig a Chyfarwyddwr Tylwyth: “Mae cael cyd-gynhyrchu unwaith eto gyda Theatr y Sherman yn fendigedig, yn arbennig gan mai pan oeddwn i’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt yn y Sherman y bu imi gyfarwyddo Llwyth, ddeng mlynedd yn ôl. O’r holl gynyrchiadau yr wyf i wedi’u cyfarwyddo, Llwyth, yn ddi-os, yw’r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gynulleidfaoedd ac a gafodd yr ymateb mwyaf syfrdanol. Roedd yn drobwynt yn fy ngyrfa i, ac yn rhyw fath o drobwynt hefyd yn y theatr Gymraeg. Alla’i ddim aros nes cael dychwelyd i’r stafell ymarfer efo’r cymeriadau eithriadol yma y mae Daf wedi eu creu, a rhannu rhai o’u helyntion diweddaraf gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae Tylwyth yn dathlu ac yn herio elfennau o’r hunaniaeth gyfoes Gymraeg, ac yn gwneud hynny, fel ag y gwnaeth Llwyth, gyda môr o chwerthin a defnydd hwyliog a chlyfar o gerddoriaeth, ond hefyd trwy fynd â’r gynulleidfa ar chwyrligwgan o emosiynau. Mae’n mynd i fod yn antur!”

Dywedodd Julia Barry, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman: “Rydym wrth ein boddau’n cael ailadrodd ein partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru trwy gyd-gynhyrchu a theithio Tylwyth gan Daf James. Mae Daf, sy’n un o Artistiaid Cyswllt Theatr y Sherman, wedi ysgrifennu drama eithriadol, sy’n bwrw golwg ar y pynciau cyffredinol sy’n wynebu’r gymdeithas gyfoes yng Nghymru heddiw, a hynny drwy lygaid y grŵp hwn o ffrindiau y cawsom ein cyflwyno iddynt ddeng mlynedd yn ôl. Fel gyda Llwyth, bydd hon yn ychwanegiad sylweddol at y casgliad o ddramâu yn yr iaith Gymraeg, ac edrychwn ymlaen yn fawr at ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ar draws Cymru.”
Bydd y daith yn ymweld â chanolfannau ledled Cymru ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2020:
Premiere Byd:
Theatr y Sherman, Caerdydd
10 – 13 Mawrth 2020
Y Daith:
Galeri, Caernarfon
17 + 18 Mawrth 2020
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
20 + 21 Mawrth 2020
Ffwrnes, Llanelli
24 Mawrth 2020
Hafren, Y Drenewydd
26 Mawrth 2020
Theatr Mwldan, Aberteifi
28 Mawrth 2020
Pontio, Bangor
31 Mawrth + 1 Ebrill 2020
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
3 + 4 Ebrill 2020
29 Hydref 2019