Y Cylch Sialc
gan Bertolt Brecht

Y Cylch Sialc
Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle)
gan Bertolt Brecht
Trosiad gan Mererid Hopwood
gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan Gwenno
Mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr
“Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.”
Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl.
Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon?
Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn troedio i fyd Bertolt Brecht gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni.
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton
Cast: Rebecca Hayes, Gwenno, Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard, Mali Ann Rees
Yn cynnwys iaith gref, sŵn sydyn uchel, goleuadau sy’n fflachio a mwg ffug ysgafn (‘haze’).
Ffwrnes, Llanelli
2 – 4 Hydref, 19.30
Tocynnau | 0345 2263510
Portland House, Caerdydd
8 Hydref, 19.30
9 Hydref, 10.00
9 Hydref, 19.30
10 Hydref, 14.00
10 Hydref, 19.30*
*Perfformiad wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane
Tocynnau | 029 2063 6464
Pontio, Bangor
15 Hydref, 19.30
16 Hydref, 10.00
16 Hydref, 19.30
17 Hydref, 10.00
17 Hydref, 19.30*
18 Hydref, 19.30
*Perfformiad wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane
Tocynnau | 01248 38 28 28
Wele’r ddolen ‘Gwybodaeth Bellach’ am fanylion gweithdai ychwanegol Pontio.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
21 Hydref, 19.30
22 Hydref, 10.00
22 Hydref, 19.30
Tocynnau | 01970 62 32 32
Cast: Rebecca Hayes, Gwenno, Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard, Mali Ann Rees
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton
Cyfansoddwr a Chynhyrchydd y Gerddoriaeth: Gwenno
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Ruth Hall
Cynllunydd Sain a Goruchwyliwr Cerddoriaeth: Dyfan Jones
Cynllunydd Goleuo: Joe Fletcher
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Nia Morris (aelod o gynllun Awenau, a gefnogir gan Gronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker)
Sgript a Gweithredydd Sibrwd: Chris Harris
Canllaw oed: 11+
Yn cynnwys iaith gref, sŵn sydyn uchel, goleuadau sy’n fflachio a mwg ffug ysgafn (‘haze’).
Amser Rhedeg:
Act 1 – 1:05
EGWYL – 0:20
Act 2- 1:05
Amserlen Sgyrsiau Cyn y Sioe i Ddysgwyr:
Ffwrnes, Llanelli
4 Hydref, 18.30, Y Crochan
Portland House, Caerdydd
9 Hydref, 18.30, Y Bar
Pontio, Bangor
17 Hydref, 18.30, Bar Ffynnon
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
22 Hydref, 18.30, Cyntedd y Neuadd Fawr
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr
Mae Nia Morris, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, yn aelod o gynllun Awenau, a gefnogir gan Gronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker.
Cadwch lygad ar y dudalen hon am wybodaeth bellach ar gyfer ysgolion, pecyn addysg, dysgwyr, ac adnodd i ddysgwyr.
Pecyn Addysg A Y Cylch Sialc
Pecyn Addysg B Y Cylch Sialc
Amserlen Digwyddiadau Pellach Pontio, Bangor
Ffotograffiaeth ar y Wal Wen
Ar noson pob perfformiad
Anogodd Brecht ei gynulleidfaoedd i feddwl – doedd o ddim eisiau iddyn nhw ‘hongian eu hymennydd gyda’u hetiau yn yr ystafell gotiau’. Mae sioe o ffotograffiaeth gyfoes gan fyfyrwyr o Goleg Llandrillo yn ceisio gwneud yr un peth, gan ymateb i themâu sy’n deillio o’r cynhyrchiad, megis ‘grym’, ‘anghyfiawnder’, ‘hawliau’ ac ‘eiddo’. Bydd y sioe hon o ffotograffiaeth yn cael ei thaflunio ar Wal Wen enfawr Pontio ar nosweithiau perfformiadau fel rhan o’r Northern Eye Photography Festival Fringe.
Curadwyd gan Mererid Hopwood, Paul Sampson (Northern Eye Photography Festival) a Tim Williams (Coleg Llandrillo).
Gweithdy
16 Hydref, 14.00, Stiwdio
Gweithdy drama ymarferol ar arddull brecht dan arweiniad Sarah Bockerton, Cyfarwyddwr y Cylch Sialc.
Sgwrs Cyn Sioe
16 Hydref, 18.00, Ystafell Cemlyn Jones
Sgwrs cyn sioe am Bertolt Brecht gan Mererid Hopwood, awdur trosiad Y Cylch Sialc i’r Gymraeg.
Mwy o fanylion i ddilyn.
Perfformiadau wedi’u dehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane:
Portland House, Caerdydd
10 Hydref, 19.30
Pontio, Bangor
17 Hydref, 19.30
Chwith i dde: Rebecca Hayes, Gwenno, Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard, Mali Ann Rees.