Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Y Tŵr

19 Mai – 17 Gorffennaf 2017
Ar daith

Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru

logo_thegen_white

“Tyrd. Mi awn ni i fyny, chdi a fi, law yn llaw hefo’n gilydd, heb ofn, heb ddifaru.”

Yn Y Tŵr cawn stori oesol gyffredin am fywyd a chariad, gan gwmni opera newydd mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig a’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg, yn seiliedig ar waith un o ddramodwyr pwysicaf Cymru. Gan archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd, daw drama enwog Gwenlyn Parry yn fyw unwaith eto, ond, y tro hwn, ar ffurf opera newydd, deimladwy a thelynegol gan y cyfansoddwr Guto Puw a’r gantores, cyfansoddwraig a dramodydd, Gwyneth Glyn.

Cenir yn Gymraeg gydag uwch-deitlau Saesneg.

Gan
Guto Puw

Libreto gan
Gwyneth Glyn

Yn seiliedig ar y ddrama gan
Gwenlyn Parry

Hyd y cynhyrchiad: 130munud (20 munud o egwyl)

Cynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei gyflwyno’n wreiddiol gan Theatr y Sherman a Gŵyl Bro Morgannwg 2017.

  • Thrillingly Heroic

    Seen and Heard International
  • Dwi wir yn meddwl bod y cynhyrchiad yma i’w ganmol i’r entrychion

    Siân Meinir, Rhaglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru
  • …a cracking psychological drama — both realistic and surreal, metaphysical and mysterious at the same time, with a spooky, insidiously suggestive score to match

    5*, Richard Morrison, The Times
Insert Alt Text
Llun / Image: Clive Barda
Llun / Image: Clive Barda
Llun / Image: Clive Barda
Llun / Image: Clive Barda
Insert Alt Text

Sgyrsiau cyn / ôl sioe

Cyn sioe: Theatr y Sherman, 19/05/17, 18:30
Cadeirydd: Dr Rhiannon Williams
Panel: Arwel Gruffydd, Guto Puw, Ffion Haf, Gwyneth Glyn

Cyn sioe: Theatr y Sherman, 20/05/17, 18:30
Cadeirydd: Geraint Lewis
Panel: Guto Puw, Ffion Haf

Ar ôl sioe: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 23/05/17
Cadeirydd: Dr Elin Haf Gruffydd Jones
Panel: Arwel Gruffydd, Ffion Haf, Roger Owen

Cyn sioe: Pontio, 25/06/17, 18:15
Cadeirydd: Elen ap Robert
Panel: Gwyneth Glyn, Guto Puw, John Ogwen, Maureen Rhys

Cyn sioe: Theatr Clwyd, 05/06/17, 18:30
Cadeirydd: Eifion Lloyd Jones
Panel: Gwyneth Glyn, Ffion Haf

Dyddiadau llawn y daith isod.

Bywgraffiadau

Guto Puw, Cyfansoddwr

Bu Guto Pryderi Puw yn astudio Cerdd ym Mhrifysgol Bangor dan y cyfansoddwyr John Pickard, Pwyll ap Siôn ac Andrew Lewis, gan raddio gydag MMus yn 1996 ac yna PhD mewn Cyfansoddi yn 2002. Penodwyd ef fel aelod llawn o’r staff yn 2006, yn darlithio’n bennaf ar Gyfansoddi a Cherddoriaeth Gyfoes, ac fe’i penodwyd yn Bennaeth Cyfansoddi yn 2015. Daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf ar ôl ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 1995, ac eto am yr eildro yn 1997. Perfformir ei gerddoriaeth mewn gwyliau cerdd ledled y Deyrnas Gyfunol, a chaiff ei darlledu’n rheolaidd ar radio a theledu. Ym mis Chwefror 2006 penodwyd ef fel y Cyfansoddwr Preswyl cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda’i Gonsierto ar gyfer yr Obo yn ennill categori Gwobr y Gwrandawyr yn y British Composer Awards 2007, a pherfformiwyd ‘… onyt agoraf y drws …’ am y tro cyntaf yng nghyngherddau’r Proms yn yr un flwyddyn. Y Tŵr, yn seiliedig ar y ddrama gan Gwenlyn Parry a’r libreto gan Gwyneth Glyn, fydd ei opera siambr gyntaf. Mae ei gomisiynau i’r dyfodol yn cynnwys ail gonsierto i’r ffidil, pedwarawd llinynol, a gwaith cerddorfaol ar raddfa fawr. Rhyddhawyd detholiad o’i waith cerddorfaol diweddar ar y CD Reservoirs gan gwmni Signum Records yn 2014. Derbyniodd hefyd Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru yn 2014 am ‘ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Cymru’. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Guto Puw wedi gweithio i hybu cerddoriaeth newydd yng ngogledd Cymru drwy ei ymwneud â Gŵyl Gerdd Bangor, fel yr aelod oedd yn gyfrifol am ei sefydlu, a’r Cyfarwyddwr Artistig er 2000.

Gwyneth Glyn, Libretydd

Bardd, awdur, cantores a chyfansoddwraig sy’n byw yng Nghricieth, gogledd Cymru, yw Gwyneth Glyn. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2006–2007 ac mae wedi ysgrifennu’n eang ar gyfer y theatr yng Nghymru, yn cynnwys darnau ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, Bara Caws, Y Frân Wen, De Oscuro a chynhyrchiad Music Theatre Wales o Stori’r Milwr/The Soldier’s Tale. Mae hi hefyd yn ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer yr opera sebon Pobol y Cwm. Yn rhyngwladol, bu’n perfformio yn WOMEX, Gŵyl Werin y Smithsonian, Washington DC, ac yn y Folk Alliance International yn Kansas. Yn 2015 cefnogodd Seckou Keita, y chwaraewr kora o Senegal, ar ei daith o amgylch y Deyrnas Gyfunol, ac yn ddiweddar bu’n cydweithio gyda cherddorion o Mumbai ar albwm o’r enw Ghazalaw, sy’n gwau caneuon gwerin o Gymru gyda Ghazal Indiaidd. Ar hyn o bryd mae Gwyneth yn recordio ei halbwm nesaf fel unawdydd.

Richard Baker, Arweinydd

Mae Richard Baker yn ffigur amlwg ym maes cerddoriaeth gyfoes ym Mhrydain fel un o brif gyfansoddwyr-arweinwyr ei genhedlaeth. Bu’n astudio cyfansoddi yn yr Iseldiroedd gyda Louis Andriessen, ac yn Llundain gyda John Woolrich, a daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf gyda dau o’i weithiau cynnar – Los Rábanos (1998) a Learning to Fly (1999). Comisiynwyd Hommagesquisse, darn sy’n nodweddiadol ddyfeisgar a llawn cymeriad, gan y Birmingham Contemporary Music Group – grŵp y mae gan Richard hefyd gysylltiad cryf ag ef fel arweinydd – i nodi ymweliad Pierre Boulez â’r ddinas honno yn 2008. Yn 2010, cynhwyswyd cerddoriaeth Baker yn y gyfres Philharmonia’s Music of Today, ac yn yr un flwyddyn cyfansoddodd Gaming, gwaith siambr sylweddol i soddgrwth, marimba a phiano, i gomisiwn gan y triawd Real Quiet, o Efrog Newydd. Perfformiwyd ei ail gomisiwn i’r BCMG, The Tyranny of Fun, am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2013, gydag Andrew Clements yn The Guardian yn mynegi ‘how assured Baker’s ensemble writing is, and how vividly it fleshes out its structural frame’. Gosodwyd y gwaith ar restr fer un o wobrau’r Royal Philharmonic Society y llynedd. Cafodd tri o’i gyfansoddiadau siambr eu perfformiadau cyntaf yn 2015/16 – gweithiau ar gyfer unawd piano, unawd telyn, a thriawd llinynnol. Cyfansoddodd hefyd waith newydd ar gyfer y BCMG i ddiweddu eu tymor. Fel arweinydd, mae Richard yn gweithio’n rheolaidd gyda’r prif gyfansoddwyr cyfoes. Yn hydref 2012, ef oedd arweinydd The Lighthouse gan Maxwell Davies, cynhyrchiad gan yr English Touring Opera a ganmolwyd yn uchel, ac yng ngwanwyn 2013 arweiniodd Badisches Staatstheater Karlsruhe yn eu rhaglen ddwbl yn cynnwys The Triumph of Time and Truth gan Handel a The Triumph of Beauty and Deceit gan Gerald Barry. Yn nhymor 2012/13 bu’n arwain y BBC Scottish Symphony Orchestra a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am y tro cyntaf, gan ychwanegu at ei berthynas agos ag ensemblau yn cynnwys y London Sinfonietta, BCMG, Britten Sinfonia, Composers Ensemble ac Apartment House. Yng ngwanwyn 2014 arweiniodd raglen ddwbl o weithiau newydd gan Francisco Coll ac Elspeth Brooke yn Aldeburgh, y Linbury Studio (y Tŷ Opera Brenhinol) ac Opera North (‘the wonderfully assured conducting of Richard Baker,’ Guy Damman, The Times). Fe’i gwahoddwyd yn ôl ar unwaith ar gyfer cynhyrchiad gwanwyn 2015 o The Virtues of Things by Matt Rogers, ac eto y tymor diwethaf i arwain y premiere byd hynod lwyddiannus o 4:48 Psychosis gan Phil Venables, yn seiliedig ar y ddrama gan Sarah Kane.

Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig

Roedd Michael yn un o gyd-sefydlwyr Music Theatre Wales yn 1988, ac fel y Cyfarwyddwr Artistig mae’n awyddus i weld y cwmni’n aros yn y rheng flaen ym myd opera newydd yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Ynghyd ag MTW, rhwng 1998–2012 roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Operatoriet, stiwdio opera gyfoes Norwy, a rhwng 2007–2012 ef oedd y Dramaturg ar gyfer FIVE:15 – Operâu a Wnaed yn yr Alban ar gyfer Opera’r Alban. Yn 2012 ef oedd arweinydd yr Opera Creation Academy yng Ngŵyl d’Aix-en-Provence. Yn ystod yr 1980au roedd yn ffodus i weithio fel cyfarwyddwr adfywio gyda The Fires of London, y cwmni a reolid gan Peter Maxwell Davies. Bu’n gyfrifol am lwyfannu dros 40 o operâu cyfoes, a gweithiodd ar dros 100 o weithiau newydd. Mae ei gynyrchiadau eraill yn cynnwys llwyfannu Tosca a Nabucco mewn cynyrchiadau ar raddfa fawr yn yr awyr agored, a chynyrchiadau o La Traviata, Cosi fan Tutte, Il Re Pastore, Fidelio a Don Giovanni. Yn ogystal, Cinderella gan Peter Maxwell Davies ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a sianel deledu S4C, The Lighthouse ar gyfer sianel deledu BBC2, a The Forbidden Hymn – opera gymunedol yng Nghymoedd De Cymru. Mae ei gynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys premiere yr Unol Daleithiau o The Trial gan Philip Glass yn St Louis, yn dilyn perfformiadau yn yr Alban, a chynyrchiadau pellach gyda Music Theatre Wales. Ym mis Ionawr 2015 enillodd wobr am y Cynhyrchydd Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru am ei gynhyrchiad premiere byd o The Trial gan Philip Glass ar gyfer Music Theatre Wales. Enillodd ei gynhyrchiad Greek wobr am Gyflawniad Rhagorol mewn Opera yng Ngwobrau TMA. Cafodd ei anrhydeddu ag MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2016.

Samal Blak, Cynllunydd

Ac yntau wedi’i eni yn Ynysoedd y Faroe, derbyniodd Samal hyfforddiant yng Ngholeg Celf a Dylunio Central St. Martins, ac enillodd Wobr Linbury am Gynllunio Llwyfan yn 2009. Dewiswyd gwaith Samal i gynrychioli’r Deyrnas Gyfunol fel rhan o’r arddangosfa ‘Make/Believe: UK Design for Performance 2011–2015’ yn amgueddfa’r V&A, a chyn hynny yn y Prague Quadrennial. Mae ei gynyrchiadau’n cynnwys: Hamlet (Gothenburg Opera); Otello (enwebwyd am wobr gerdd RPS 2010 am Opera a Theatr Gerdd), Khovanshchina (Enillydd – Y Cynhyrchiad Newydd Gorau, Gwobrau Opera Rhyngwladol 2015) a Life is a Dream – premiere byd (Birmingham Opera Company); Falstaff a Fidelio (Bucharest National Opera); The Devil Inside (enwebwyd am wobr Cyflawniad Rhagorol mewn opera yng Ngwobrau Theatr y Deyrnas Gyfunol 2016), In the Locked Room a Ghost Patrol (enillydd, Gwobr South Bank Sky Arts 2013) – premierau byd (Opera’r Alban a Music Theatre Wales); Les Mamelles de Tiresias (De Nationale Opera Amsterdam, La Monnaie Brussels, Aldeburgh Music, Festival d’Aix-en-Provence); Tosca (Opera Ostfold, Norwy); Eugene Onegin (Theater an der Wien-in der kammeroper); Giasone, Agrippina, Simon Boccanegra, The Siege of Calais, Cosi Fan Tutte (ETO); L’Incoronazione di Poppea (RCM, ETO); Macbeth (Guerilla Theatre Seoul); How to be Another Woman (Gate Theatre, London). Yn 2007 enillodd wobr Thorvald Poulsen av Steinum.

Ace McCarron, Cynllunydd Goleuo

Cynllunydd goleuo llawrydd sy’n byw yng Nghaerdydd yw Ace McCarron. Trwy ei waith gyda chwmnïau megis The Fires of London, Music Theatre Wales a’r Operastudio Vlaanderen, bu’n gyfrifol am gynllunio’r goleuo ar gyfer nifer o operâu cyfoes. Mae hefyd yn adnabyddus am ei waith gyda nifer o gwmnïau ysgrifennu-newydd, a chwmnïau theatr i blant a phobl dduon. Bu’n aelod o gwmni Howard Barker, The Wrestling School, er 1989 ac ef oedd yn gyfrifol am oleuo eu cynhyrchiad wyth awr o hyd, The Ecstatic Bible, yng Ngŵyl Adelaide. Mae ei waith diweddar ym myd yr opera’n cynnwys: The Devil Inside ac In the Locked Room/Ghost Patrol – premierau byd a chyd-gynyrchiadau rhwng Music Theatre Wales ac Opera’r Alban, The Trial gan Philip Glass – premiere byd, Greek (a berfformiwyd ddiwethaf yn y Tongyeong Music Festival), Eight Songs for a Mad King, The Killing Flower (Luci mie traditrici gan Sciarrino), The Golden Dragon (Music Theatre Wales); Elle est Moi et Tote Mich (Operastudio Vlaanderen); Orlando Paladino (Wiener Kammeroper); The Fairy Queen (Gŵyl Gerdd Istanbul); Waar is Mijn Zeil? (Muziektheater Transparent). Ynghyd â’r cyfansoddwr Guy Harries, enillodd wobr agoriadol Flourish am addasiad o Two Caravans gan Marina Lewycka.

Caryl Hughes, Benyw

Mae Caryl yn hanu o Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru, a graddiodd ag anrhydedd o’r Academi Gerdd Frenhinol yn haf 2007. Mae ei rhannau Operatig a Theatr Gerdd yn cynnwys Maria/West Side Story a Cosette/Les Miserables gyda Pimlico Opera, Olga/Eugene Onegin a First Nymph/Rusalka gyda Grange Park Opera, Angela yn y premiere byd o Dream Hunter gan Nicola LeFanu, Madama Brillante/The Italian Girl in London a Giacinta/La Finta Semplice i Bampton Opera, Orlovsky/Die Fledermaus a Jane Seymour/Anna Bolena (wrth gefn) gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Tiny/Paul Bunyan, Papagena/The Magic Flute a Rita Rat/Fantastic Mr Fox gyda’r English Touring Opera, Cenerentola gydag Iford Arts Festival, Sonya/Sonya’s Story gyda’r Tête à Tête Festival, Cherubino/Le nozze di Figaro (wrth gefn) a Dorabella/Cosi Fan Tutte (wrth gefn) gydag Opera’r Alban, Sifare/Mitridate (wrth gefn) ac Orlovsky/Die Fledermaus gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Yniold/Pelléas et Mélisande gydag Independent Opera a Flora (premiere byd o The Enchanted Pig gan Jonathan Dove) gyda’r Young Vic Theatre a The Opera Group. Mae Caryl wedi perfformio mewn cyngherddau gyda Bryn Terfel yn Grange Park Opera, Gŵyl y Gelli ac i Raymond Gubbay, a gyda Syr Thomas Allen yng Ngŵyl y Tri Chôr. Rhyddhawyd ei disg gyntaf, sef Cabaret Songs, Britten, gyda Malcolm Martineau gan ONYX, ar ôl iddi berfformio’r caneuon yng Ngwyliau Cerdd Aix-en-Provence 2009 ac Aldeburgh. Yn ddiweddar, chwaraeodd Caryl rannau Dorabella a Cherubino gyda Diva Opera ar daith ac yn Ne Affrica. Hwn yw’r tro cyntaf iddi weithio gyda Music Theatre Wales.

Gwion Thomas, Gwryw

Ganed Gwion yng Ngorseinon, ger Abertawe, ac mae’n nai i’r canwr enwog Thomas Llyfnwy Thomas o Gymru ac America. Astudiodd yn y Royal Northern College of Music, Manceinion, ac mae’n unwawdydd prysur ar lwyfan yr opera ac mewn cyngherddau. Gydag Opera Cenedlaethol Cymru canodd ran Figaro yn The Barber of Seville a rhannau yn Tornrak gan Metcalf. Gydag Opera’r Alban canodd ran Maitra yn Snatched by the Gods gan Vir, a Godwin yn Monster gan Beamish. Mae ei rannau niferus gyda Kent Opera yn cynnwys creu rhan Chao Lin yn A Night at the Chinese Opera gan Weir, a’r rhan deitl yn Orfeo gan Monteverdi. Mae ganddo gysylltiad arbennig gyda Music Theatre Wales, gan ganu iddynt mewn sawl rhan, yn cynnwys Blazes yn The Lighthouse gan Maxwell Davies, Mr Punch yn Punch and Judy gan Birtwistle ac, yn fwyaf diweddar, Dad yn eu cynhyrchiad arobryn o Greek gan Turnage, a Huld yn The Trial gan Philip Glass. Dramor, bu’n canu Blazes gyda Transparent (Antwerp), Eddy yn Greek yn y premiere yn yr Iseldiroedd gyda Taller Amsterdam, ac A Water Bird Talk gyda’r Opera Theatre Company yn Nulyn. Mae ei waith diweddar mewn cyngherddau’n cynnwys Elijah yn Yr Wyddgrug, a Winterreise gan Schubert yn Loughborough. Mae’n byw yn Swydd Northampton, ac yn ogystal â’i waith fel canwr mae Gwion hefyd yn dysgu yn y Birmingham Conservatoire.

Gan Guto Puw
Libreto gan Gwyneth Glyn
Yn seiliedig ar y ddrama gan Gwenlyn Parry
Benyw: Caryl Hughes
Gwryw: Gwion Thomas
Arweinydd: Richard Baker
Cyfarwyddwr: Michael McCarthy
Cynllunydd: Samal Blak
Cynllunydd Goleuo: Ace McCarron

  • Prev
  • Next
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government