Y Tad
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU MEWN CYDWEITHREDIAD Â PONTIO
AR DAITH LEDLED CYMRU
21 Chwefror – 16 Mawrth 2018

Y Tad
gan Florian Zeller
Trosiad Cymraeg gan Geraint Løvgreen
“Mae ’na bethau rhyfedd yn digwydd o’n cwmpas ni. Wyt ti’m ’di sylwi?”
Mae byd y tad a’i ben i waered. Pwy ydi’r bobl ddieithr yma yn ei dŷ? Ai ei dŷ o ydi hwn, tybed?
Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n methu deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad.
Trosiad newydd i’r Gymraeg o Le Père, enillydd Gwobr Molière 2014 am y Ddrama Orau, ac enillydd cystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016.
“Dwi yn ’y nhŷ fy hun, tydw? Yndw? . . . Nach’dw?. . . ’Y nhŷ i ydi hwn, yndê?”
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.
Cast: Dyfan Roberts, Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Mirain Fflur.
Mynediad i’r di-Gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd. Manylion llawn yma.
Canllaw oed 11+
Yn cynnwys golygfa ag elfen o drais a allai beri gofid i rai.
Bydd Y Tad yn mynd ar daith i saith canolfan ledled Cymru, ac fe fydd rhaglen gyfranogi gyfoethog i gyd-fynd â’r daith. Ceir y dyddiadau llawn isod.
Pontio, Bangor: 21 Chwefror 7.30yh (Rhagddangosiad) / 22 Chwefror 7.30yh / 23 Chwefror 2.00yp a 7.30yh
Sgwrs cyn y sioe i ddysgwyr 21 Chwefror, yn cychwyn am 6.30pm. Bydd y sgwrs yn gymraeg.
Mae’r tocynnau am ddim i’r digwyddiad yma ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Cadeirydd: Eirian Conlon.
Sgwrs wedi’r sioe 22 Chwefror
Canolfan Celfyddydau Pontardawe: 27 Chwefror 7.30yh / 28 Chwefror 11yb
Sgwrs wedi’r sioe 27 Chwefror
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron: 2 Mawrth 1.00yp a 7.30yh / 3 Mawrth 7.30yh
Sgwrs wedi’r sioe 7.30yh, 2 Mawrth
Theatr y Lyric, Caerfyrddin: 6 Mawrth 1yp a 7.30yh
Theatr y Sherman, Caerdydd: 8 Mawrth 7.30yh / 9 Mawrth 1.30yp a 7.30yh
Sgwrs wedi’r sioe 8 Mawrth
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 Mawrth 7.45yh / 14 Mawrth 1.30 a 7.45yh
Sgwrs wedi’r sioe 13 Mawrth
Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd: 16 Mawrth 1yp a 7.30yh
Sgwrs cyn y sioe 1yp i ddysgwyr, yn cychwyn am 12.15yp. Cadeirydd: Helen Prosser.
