Y Negesydd
Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Felinfach
gan Caryl Lewis

Mae sibrydion yn bethau cyffredin iawn mewn pentrefi cefn gwlad. Ond sibrydion go wahanol sy’n poeni un gymuned fechan. Weithiau’n gwmni diddan, dro arall yn datgelu cyfrinachau, mae sgyrsiau Elsi gyda’r meirwon yn anesmwytho’r gymuned. Ai rhodd neu groes i Elsi yw ei dawn anghyffredin?
Mewn drama newydd wedi’i gosod yng Ngheredigion y 1950au, o waith un o hoff awduron Cymru, cawn stori iasol y negesydd wrth iddi ail-fyw nid yn unig ei gorffennol dirdynnol ei hun, ond hefyd boen a thrallod y gymdogaeth i gyd.


Cyfarwyddwr: Ffion Dafis
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Dan Lawrence
Cynllunydd Set: Gwyn Eiddior Parry
Cast:
Sara Lloyd-Gregory
Lisa Marged
Geraint Morgan
Aled Pedrick
30 Ebrill* – 2 Mai, 2014
Theatr Felinfach
*Rhagddangosiad
6 – 7 Mai, 2014
Theatr y Mwldan, Aberteifi
13 Mai, 2014
Theatr y Sherman, Caerdydd
16 – 17 Mai, 2014
Clwyd Theatr Cymru, Wyddgrug
19 – 20 Mai, 2014
Galeri, Caernarfon
24 Mai, 2014
Canolfan Celfyddydau, Aberystwyth