Tylwyth
gan Daf James

TYLWYTH
gan Daf James
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman
Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae’r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.
Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.
Canllaw oed: 16+
Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themâu aeddfed.
Y Daith
Theatr y Sherman, Caerdydd
10 – 13 Mawrth 2020
Sgwrs cyn sioe i ddysgwyr ar 12 Mawrth 2020
Pob perfformiad wedi’i gapsiynu.
Roedd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael ym mhob perfformiad.
Yn sgîl argyfwng COVID-19 (Coronafirws), ochr yn ochr â’n cyd-gynhyrchwyr, Theatr y Sherman, canslwyd taith genedlaethol Tylwyth oedd wedi’i threfnu rhwng 17 Mawrth – 4 Ebrill 2020. Roedd y daith wedi’i threfnu i’r canolfannau canlynol: Galeri (Caernarfon); Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Ffwrnes (Llanelli); Hafren (Y Drenewydd); Theatr Mwldan (Aberteifi); Pontio (Bangor); Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug).
Cast
Simon Watts – Aneurin
Danny Grehan – Dada
Michael Humphreys – Gareth
Arwel Davies – Rhys
Martin Thomas – Dan
Aled ap Steffan – Gavin
Timoedd Creadigol a Chynhyrchu
Awdur: Daf James
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Tom Rogers
Cyfansoddwr, Cyfarwyddwr Cerdd a Threfniannau Cerddorol Gwreiddiol: Daf James
Cynllunydd Goleuo: Ceri James
Cynllunydd Sain: Sam Jones
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Elen Mair Thomas (aelod o Gynllun Awenau, a gefnogir gan Gronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker)
Cyfarwyddwr Corfforol: Eddie Ladd
Cyfarwyddwr Llais: Nia Lynn
Awdur Sibrwd: Chris Harris
Cynhyrchydd Cerddorol: James Clarke
Rheolwr Cynhyrchu: Angharad Mair Davies
Rheolwr Cynhyrchu Theatr y Sherman: Mandy Ivory-Castile
Dirprwy Reolwr Cynhyrchu ar Daith: Rhys Williams
Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Kevin Smith
Rheolwr Llwyfan Technegol: Dyfan Rhys
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Kelly Evans
Rheolwyr Llwyfan Cynorthwyol: Ffion Rebecca Evans + Cerys John
Goruchwylydd Gwisgoedd: Erin Maddocks
Ail Oleuydd: Angharad Evans
Peiriannwyr Sain: Dan Jones + Gareth Brierley
Gweithredydd Sibrwd: Martha Davies
Gweithredwyr Capsiynau: Gwawr Loader + Elin Phillips
Ymgynghorydd Capsiynau: Bethan Way
Adeiladwyr y Set: Mathew Thomas (Prif Saer), Gareth Williams (Saer), Alice Burridge (Saer), Lauren Dix, Cerys Lewis, Ruth Stringer + Seren Noel (Artistiaid Golygfaol)