Theatr Gen Creu yn y Steddfod
7 – 11 Awst 2018
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Mae Theatr Gen Creu yn y Steddfod yn fenter newydd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni sy’n rhoi llwyfan i waith-ar-waith Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys cyflwyniadau a darlleniadau o rai o brosiectau’r cwmni sydd mewn datblygiad ar hyn o bryd, gyda’r nod o ddatblygu a mireinio’r gwaith ac i hybu talent. Mae’n gyfle hefyd i’r cyhoedd roi adborth ar y prosiectau hyn yn eu dyddiau cynnar ac i ennyn trafodaeth am y broses o greu gweithiau theatr newydd yn y Gymraeg.
Cynhelir y rhan fwyaf o raglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod yn Theatr y Maes, sydd yn un o is-bafiliynau yr Eisteddfod a leolir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd yr Eisteddfod yn gweithredu system bandiau garddwrn ar gyfer gweithgareddau’r dydd a gynhelir yn yn y Pafiliwn (yn Theatr Donald Gordon) ac yn yr is-bafiliynau. Bydd modd archebu’r rhain ymlaen llaw neu’u prynu ar y diwrnod. I archebu cliciwch yma.
Mae Theatr Gen Creu yn y Steddfod yn rhan o Theatr Gen Creu, ein menter newydd sy’n cefnogi talent, yn datblygu crefft y theatr ac yn cynnig cyfleoedd arbennig i artistiaid yng Nghymru.
Mae’r rhaglen hon o ddarlleniadau a dangosiadau i’w gweld ochr yn ochr a chynhyrchiad llawn gan y cwmni o Milwr yn y Meddwl, gan Heiddwen Tomos. Manylion llawn yma.
DYDD MAWRTH 7 AWST
14:00 @ Theatr y Maes. (Hyd: 60 munud)
Karen a Bryn
gan Caryl Lewis
Darlleniad o ddrama newydd gan y nofelydd arobryn sy’n dilyn hanes gŵr a gwraig sy’n perfformio fel deuawd boblogaidd yng nghlybiau’r gweithwyr ar hyd a lled de Cymru. Pan mae Karen yn darganfod cyfrinach fawr ei gŵr, mae byd y ddau’n cael ei droi ben i waered. Wrth i Bryn ystyried cwestiynau sylfaenol ynglŷn â’i hunaiaeth rhywedd, tybed beth fydd ymateb ei wraig?
Cyfarwyddwr: Elen Bowman
Cast: Gareth Pierce, Mari Izzard, Rhodri Miles
Cyflwyniad o waith-ar-waith.
Hefyd yn rhan o raglen ‘Mas ar y Maes’.
Sgwrs i ddilyn gyda Caryl Lewis a’r cyfarwyddwr, Elen Bowman. Cadeirydd: Cris Dafis.
#TheatrGenCreuSteddfod #MasArYMaes
15.30 @ Theatr y Maes. (Hyd: 60 munud)
Merched Caerdydd
gan Catrin Dafydd
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cyd-gynhyrchiad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cariad, Liberty ac Awen. Dyma stori am dair diemwnt lachar sy’n mynnu disgleirio yn y llefydd lletchwith hynny yng Nghaerdydd nad y’n ni am fynd iddyn nhw . . . llefydd a sefyllfaoedd fyddai’n llawer haws inni anghofio amdanynt. Mae’r merched hyn yn byw bywydau gwahanol iawn i’w gilydd, ond mae un ffactor yn gyffredin rhyngddynt – maen nhw’n benderfynol o oroesi’n hardd er mor hyll ac annhaclus y gall bywyd fod.
Cyfarwyddwr: Mared Swain
Cast: Mali Jones, Emmy Stonelake, Siân Reese-Williams
Darlleniad o dair monolog newydd mewn datblygiad.
Canllaw oed 13+ (Yn cynnwys iaith gref)
#TheatrGenCreuSteddfod
Gareth Pierce, Mari Izzard, Rhodri Miles (cast Karen a Bryn). Elen Bowman (cyfarwyddwr Karen a Bryn)
Mali Jones, Emmy Stonelake, Siân Reese-Williams (cast Merched Caerdydd). Mared Swain (cyfarwyddwr Merched Caerdydd)
DYDD MERCHER 8 AWST
14.00 @ Theatr y Maes. (Hyd: 60 munud)
Awr y Pencampwyr
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Darlleniadau o ddramâu newydd gan rai o gyn-enillwyr cystadleuaeth Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol. Tybed a welsoch chi gynyrchiadau o ddramâu buddugol diweddar y Fedal Ddrama – ‘Dŵr Mawr Dyfn’ gan Glesni Haf, ‘Rhith Gân’ gan Wyn Mason, ac ‘Estron’ gan Hefin Robinson? Mae’r tri awdur buddugol wedi bod yn datblygu syniadau ar gyfer dramâu newydd gwreiddiol gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef ‘’Tydi Waliau’n Siarad?’ (gan Glesni Haf), ‘Asyn’ (gan Wyn Mason) ac ‘Tywyllwch’ (gan Hefin Robinson). Dyma gyfle i glywed detholiad o’r dramâu hynny yn eu dyddiau cynnar.
Tydi Waliau’n Siarad? (Glesni Haf):
Cyfarwyddwr: Nico Dafydd
Cast: Glyn Pritchard, Catrin-Mai Huw, Siôn Eifion, Rhian Morgan
Asyn (Wyn Mason):
Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
Cast: Heledd Gwynn
Hoffai’r cwmni ddiolch i Geraint Jarman am yr hawl i ddefnyddio ei gân ‘Paradwys Ffŵl’ yn y cyflwyniad hwn.
Canllaw oed 13+ (Yn cynnwys iaith gref)
Tywyllwch (Hefin Robinson)
Cyfarwyddwr: Chris Harris
Cast: Anni Dafydd, Berwyn Pearce, Mari Izzard
Cyflwyniad o waith-ar-waith.
Sgwrs i ddilyn gyda’r awduron a’r cyfarwyddwyr. Cadeirydd: Catrin Jones Hughes.
#TheatrGenCreuSteddfod
15.30 @ Theatr y Maes. (Hyd: 75 munud)
Merched Caerdydd
gan Catrin Dafydd
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cyd-gynhyrchiad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cariad, Liberty ac Awen. Dyma stori am dair diemwnt lachar sy’n mynnu disgleirio yn y llefydd lletchwith hynny yng Nghaerdydd nad y’n ni am fynd iddyn nhw . . . llefydd a sefyllfaoedd fyddai’n llawer haws inni anghofio amdanynt. Mae’r merched hyn yn byw bywydau gwahanol iawn i’w gilydd, ond mae un ffactor yn gyffredin rhyngddynt – maen nhw’n benderfynol o oroesi’n hardd er mor hyll ac annhaclus y gall bywyd fod.
Cyfarwyddwr: Mared Swain
Cast: Mali Jones, Emmy Stonelake, Siân Reese-Williams
Darlleniad o dair monolog newydd mewn datblygiad.
Sgwrs i ddilyn gyda Catrin Dafydd a’r cyfarwyddwr, Mared Swain. Cadeirydd: Ceri Elen.
Canllaw oed 13+ (Yn cynnwys iaith gref)
#TheatrGenCreuSteddfod
Glyn Pritchard, Catrin-Mai Huw, Sion Eifion, Rhian Morgan (cast Tydi Waliau’n Siarad?). Nico Dafydd (cyfarwyddwr Tydi Waliau’n Siarad?)
Heledd Gwynn (cast Asyn). Elgan Rhys (cyfarwyddwr Asyn)
Anni Dafydd, Berwyn Pearce, Mari Izzard (cast Tywyllwch). Chris Harris (cyfarwyddwr Tywyllwch)
DYDD IAU 9 AWST
14.00 @ Theatr y Maes. (Hyd: 60 munud)
Nel
gan Gwyneth Glyn (addasiad o ffilm eiconig Meic Povey)
Theatr Genedlaethol Cymru
Mae’r fferm lle magwyd Nel, yng nghlydwch cwm pellennig yn Eryri, a lle mae hi a’i brawd oedrannus yn byw o hyd, dan fygythiad. Ei brawd ei hun sydd am ei gwerthu a’u symud ill dau i fyngalo ‘braf’ yn y dref. Ond mae eu nith yn dychwelyd o Gaerdydd i fro mebyd ei thad i geisio dal pen rheswm â’i hewythr pengaled ac achub ei modryb rhag yr hunllef sy’n ei hwynebu. Yn alegori o ddirywiad y bywyd cefn gwlad Cymraeg, dyma addasiad llwyfan newydd o’r ffilm arobryn o ddyddiau cynnar S4C.
Cyflwynir y darlleniad er cof am Meic Povey.
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cast: Gwenno Hodgkins, Dyfan Roberts, Angharad Llwyd, Owen Arwyn, Esme Cheadle, Joseph Cornish
Cyflwyniad o waith-ar-waith.
Sgwrs i ddilyn gyda Gwyneth Glyn a’r cyfarwyddwr, Arwel Gruffydd. Cadeirydd: Manon Wyn Williams.
Gyda chefnogaeth Rondo.
Hoffai’r cwmni ddiolch o galon i deulu’r diweddar Meic Povey am yr hawl i addasu’r sgript ffilm yn ddrama lwyfan ac i gyflwyno’r fersiwn hwn o’r sgript fel darlleniad o waith-ar-waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
#TheatrGenCreuSteddfod
Gwenno Hodgkins, Dyfan Roberts, Angharad Llwyd, Owen Arwyn, Esme Cheadle, Joseph Cornish (cast Nel). Arwel Gruffydd (cyfarwyddwr Nel)
DYDD GWENER 10 AWST
14.00 @Theatr y Maes. (Hyd: 60 munud)
KATE
Volcano Theatre mewn cyd-gynhyrchiad â Theatr Genedlaethol Cymru
Gan ddefnyddio rhai o straeon byrion olaf Kate Roberts fel ysbrydoliaeth, mae hwn yn waith-ar-waith sy’n portreadu darnau o’r tirwedd hwnnw y mae Kate Roberts yn craffu mor fanwl arno. Mae ei disgrifiad – barddonol weithiau – o fywyd ym mhentrefi llechi gogledd Cymru yn rhan o’r traddodiad llenyddol ‘realaeth gymdeithasol’. Anaml y mae’r dirwedd hon o ddioddefaint a gwaith caled yn chwareus o ran ei natur, ond trwy ein hymchwil a’n perfformiad gobeithiwn ddatblygu dull newydd o weld y gorffennol cyfarwydd hwn. Gan anrhydeddu athrylith Kate Roberts, rydym yn anelu at gyflwyno iaith berfformio a allai fod yn esthetig, yn feiddgar, yn brydferth a hyd yn oed yn chwareus.
Dramatwrg: Branwen Davies
Cyfarwyddwr: Paul Davies
Cast: Rebecca Smith-Williams, Eben James, Manon Wilkinson, Iwan Garmon, Chris Hoskins
Cyfansoddwr: Rhodri Davies
Cerddorion: Pat Thomas ac Ailbhe Nic Oireachtaigh
Coreograffi: Catherine Bennett
Cyflwyniad o waith-ar-waith.
Sgwrs i ddilyn gyda’r artistiaid. Cadeirydd: Mari Emlyn.
Hoffai’r cwmni ddiolch i Gwasg Gee am yr hawl i addasu gwaith gwreiddiol gan Kate Roberts.
#TheatrGenCreuSteddfod
Rebecca Smith-Williams, Eben James, Manon Wilkinson, Iwan Garmon, Chris Hoskins (cast KATE).
DYDD SADWRN 11 AWST
15.00 @ Caffi’r Theatrau. (Hyd: 60 munud)
Merched Caerdydd
gan Catrin Dafydd
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cyd-gynhyrchiad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cymru Cariad, Liberty ac Awen. Dyma stori am dair diemwnt lachar sy’n mynnu disgleirio yn y llefydd lletchwith hynny yng Nghaerdydd nad y’n ni am fynd iddyn nhw . . . llefydd a sefyllfaoedd fyddai’n llawer haws inni anghofio amdanynt. Mae’r merched hyn yn byw bywydau gwahanol iawn i’w gilydd, ond mae un ffactor yn gyffredin rhyngddynt – maen nhw’n benderfynol o oroesi’n hardd er mor hyll ac annhaclus y gall bywyd fod.
Cyfarwyddwr: Mared Swain
Cast: Mali Jones, Emmy Stonelake, Siân Reese-Williams
Darlleniad o dair monolog newydd mewn datblygiad.
Canllaw oed 13+ (Yn cynnwys iaith gref)
#TheatrGenCreuSteddfod