Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy 'Sgrifennodd Honna?
Darlleniadau o ddramâu gan aelodau Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru
Mae Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.

Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ‘Sgrifennodd Honna?
Darlleniadau o ddramâu gan aelodau Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru: Melangell Dolma, Cai Llewelyn Evans, Elin Gwyn, Miriam Elin Jones, Lowri Morgan, Naomi Nicholas, Sian Northey a Gruffudd Eifion Owen.
Dyma benllanw cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2019, gyda chyfres o ddarlleniadau o ddramâu newydd gan y don nesaf o ddramodwyr Cymraeg.
Mae hwn yn gyfle unigryw i weld canlyniad 10 mis o waith creu a datblygu, dan arweiniad Theatr Genedlaethol Cymru, gan rai o’r dramodwyr Cymraeg newydd mwyaf cyffrous o bob cwr o Gymru.
Ym mhob digwyddiad ceir darlleniad o ddramâu newydd gan ddau ddramodydd, gyda sgwrs i ddilyn gyda’r dramodwyr, y cast a’r cyfarwyddwyr.
Mae Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.
Theatr y Sherman, Caerdydd
11 Mehefin | 19:30
Bore Oes gan Melangell Dolma a Bwyd Ci gan Cai Llewelyn Evans
12 Mehefin | 19:30
Parti Priodas gan Gruffudd Eifion Owen a Nhw gan Lowri Morgan
Noder os gwelwch chi’n dda, bod defnydd o iaith gref yn y dramâu uchod.
Ffwrnes, Llanelli
18 Mehefin | 19:30
Nyts, Nag’yn Ni? gan Miriam Elin Jones ac Wyau gan Naomi Nicholas
Noder os gwelwch chi’n dda, bod defnydd o iaith gref yn y dramâu uchod.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
19 Mehefin | 19:30
Nyts, Nag’yn Ni? gan Miriam Elin Jones ac Wyau gan Naomi Nicholas
Noder os gwelwch chi’n dda, bod defnydd o iaith gref yn y dramâu uchod.
Pontio, Bangor
25 Mehefin | 19:30
Un Tro gan Sian Northey a Teimlo gan Elin Gwyn
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
26 Mehefin | 20:00
Un Tro gan Sian Northey a Teimlo gan Elin Gwyn
Ystafell Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
2 Gorffennaf* | 19:00
Bore Oes gan Melangell Dolma a Bwyd Ci gan Cai Llewelyn Evans
3 Gorffennaf* | 19:00
Parti Priodas gan Gruffudd Eifion Owen a Nhw gan Lowri Morgan
*Perfformiad wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain
Bore Oes gan Melangell Dolma
Wrth i Anwen dreulio’i hugeiniau’n creu adar papur i’w gwerthu ar y we, mae’r pethau pwysicaf yn ei bywyd i gyd i weld yn llithro drwy ei bysedd.
Cyfarwyddwr: Eddie Ladd
Cast: Manon Wilkinson
Yn cynnwys iaith gref.
Bwyd Ci gan Cai Llewelyn Evans
‘Bwyd ci’ yw bathiad Raymond Piper ar gyfer chwaraewyr rygbi sydd wedi gweld dyddiau gwell – ond sut mae goroesi yn y byd didrugaredd hwn?
Cyfarwyddwr: Rhian Blythe
Cast: Gareth John Bale, Lowri Gwynne, Dewi Rhys Williams
Yn cynnwys iaith gref.
Parti Priodas gan Gruffudd Eifion Owen
Emynau, tensiynau a dwyieithrwydd lletchwith: croeso i barti priodas Dafydd a Samantha!
Cyfarwyddwr: Gethin Roberts
Cast: Cellan Wyn, Ceri Wyn
Yn cynnwys iaith gref.
Nhw gan Lowri Morgan
Gwrywdod a Benyweidd-dra. Pa mor bell ydan ni’n colli’n hunain yn yr eithafion yma? A pha mor eithafol yw’r effaith yma arnom ni?
Cyfarwyddwr: Elen Thomas
Cast: Rhodri Meilir, Trystan ap Owen, Garmon Rhys
Yn cynnwys iaith gref.
Nyts, Nag’yn Ni? gan Miriam Elin Jones
Mae Eleri yn gwneud pob dim o fewn ei gallu i ddal ei gafael ar yr unig beth sefydlog yn ei bywyd, ond dyw hynny ddim yn hawdd pan fo hwnnw, Gavin, yn gyndyn iawn o ymrwymo i unrhyw
beth . . .
Cyfarwyddwr: Nia Morris
Cast: Bethan Bevan, Iwan Davies
Wyau gan Naomi Nicholas
Meithrin bywyd newydd yw bara menyn pob ffarmwr. Ond nid yw llenwi’u nyth mor rhwydd i Mari a’i gŵr Gwyn.
Cyfarwyddwr: Nico Dafydd
Cast: Endaf Eynon Davies, Sian Davies
Un Tro gan Sian Northey
Mae straeon yn bwysig – ond mae gan bawb ei fersiwn ei hun o’r gorffennol.
Cyfarwyddwr: Ffion Haf
Cast: Huw Garmon, Emyr Roberts
Teimlo gan Elin Gwyn
Pan mae canser yn dod yn rhan o berthynas cwpl ifanc, mae popeth yn newid… a dim byd yn newid.
Cyfarwyddwr: Mirain Fflur
Cast: Elain Lloyd, Berwyn Pearce
Darllenwch ymhellach am ein cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd yma.
Talwch faint a fynnwch
Bydd y darlleniadau ar gyfer y Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? yn gweithio ar system Talwch faint a fynnwch, sy’n golygu nad oes raid i chi dalu hyd nes y byddwch wedi gweld y perfformiad.
Bydd angen bwcio tocynnau o flaen llaw fel arfer, ond does dim gorfodaeth arnoch i dalu hyd nes y byddwch wedi gweld y sioe. Gallwch wedyn benderfynu ar bris sydd, yn eich barn chi, yn addas, yn seiliedig ar eich profiad.
Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Darlleniadau wedi’u dehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain
Bydd dau ddarlleniad wedi’u dehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain:
Ystafell Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 2 + 3 Gorffennaf, 19:00