Macbeth
14 Chwefror 2017 + ail-ddangosiadau
mewn canolfannau ar draws Cymru
Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter

Wedi methu dod i Gastell Caerffili i weld Macbeth? Peidiwch â phoeni. Gyda’n menter newydd, Theatr Gen Byw, gallwch fwynhau’r cynhyrchiad ysblennydd hwn yn eich canolfan gelfyddydau / sinema leol. Cafodd Macbeth ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ar draws Cymru ar y 14eg o Chwefror. Os wnaethoch chi golli’r darllediad, peidiwch â phoeni, bydd ail-ddangosiad ar ddyddiadau amrywiol yn y canolfannau. Ceir y dyddiadau i gyd isod.
“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;
Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”
Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael am ei wrhydri. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.
Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.
Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.
“… y mae pethau
Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.”
Addas i oedran 11+.
Ceir manylion llawn y canolfannau isod.
Manylion Hygyrchedd – Cynllun Hynt
Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol. Mae gwefan Hynt yn nodi popeth fydd angen i chi ei wybod am y cynllun; ar gyfer pwy mae Hynt, beth mae’n ei ddarparu, a sut i ddod yn aelod. Mae nifer o’r canolfannau sy’n dangos Macbeth yn aelodau o gynllun Hynt. Ewch i wefan eich canolfan leol am fanylion llawn, neu am fanylion am Hynt ewch i:
Cyfieithiad gan y diweddar Gwyn Thomas
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd: Ruth Hall
Cynllunydd Goleuo: Joe Fletcher
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Aled Pedrick
Cast yn cynnwys: Richard Lynch (Macbeth), Ffion Dafis (Arglwyddes Macbeth), Gareth John Bale, Sion Eifion, Owain Gwynn, Gwenllian Higginson, Phylip Harries, Aled Pugh, Martin Thomas, Tomos Wyn a Llion Williams