Sgidie, Sgidie, Sgidie
gan Mared Roberts
O 27 Mai 2020

Sgidie, Sgidie, Sgidie
gan Mared Roberts
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd
– Gin ti’m byd allan fa’ma.
– Ma’ gyda fi ti.
Dydd Llun. 8.46yb. Caerdydd Canolog. Mae pobl yn heidio i’w swyddfeydd – latte mewn un llaw a ffôn yn y llall. Ond does neb yn cymryd unrhyw sylw o Leah a’i chwpan bach o geiniogau…
… neb, oni bai am Robin.
Mae Sgidie, Sgidie, Sgidie gan Mared Roberts – drama fuddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 – yn stori garu anghyffredin sy’n gosod digartrefedd, tlodi ac anghyfartaledd cymdeithasol ar ganol llwyfan rithiol. Daw’r cyfan yn fyw mewn cyflwyniad ar-lein sy’n ymateb i’r her o greu theatr yn y cyfnod hwn o fod dan glo.
Bydd Sgidie, Sgidie, Sgidie ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (/-\/\/\ – amam.cymru) o 5yh ar 27 Mai 2020. Cynhyrchiad Cymraeg gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.
Amser rhedeg: 1 awr
Cyfarwyddwr: Gethin Roberts
Cast: Cadi Beaufort, Mark Henry Davies
Canllaw oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref a chyfeiriadau at gyffuriau.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.