Saethu Cwningod / Shooting Rabbits
PowderHouse mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru
If I can shoot rabbits, I can shoot fascists.
Wrth adael cartref yng nghanol nos, mae dyn ifanc yn teithio i Sbaen i frwydro dros ei gredoau. Yn ddihyfforddiant, yn ddibrofiad ac yn hollol amharod, mae’n wynebu dewis rhwng delfrydiaeth a gweithred. Fyddech chi’n mentro popeth dros ddemocratiaeth?
Mae cerddoriaeth fyw a delweddau trawiadol yn gymysg â Chymraeg, Saesneg, Sbaeneg a Basgeg wrth ymchwilio i’r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop mewn argyfwng.
Mae PowderHouse yn cyflwyno premiere byd-eang eu cynhyrchiad cyntaf fel cwmni preswyl Theatr y Sherman, mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru.
Wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Chelsey Gillard a Jac Ifan Moore
Gyda deunydd ychwanegol wedi’i greu gan PowderHouse.
Cynllunydd Camilla Clarke
Cynllunydd Sain Sam Jones
Cynllunydd Goleuo Katy Morison
Perfformwyr Alejandra Bacelar Pereira, Gwenllian Higginson & Neal McWilliams
Cerddoriaeth fyw Sam Humphreys
Teithiau-cyffwrdd ar gael cyn pob perfformiad – mynnwch le trwy alw’r swyddfa docynnau 48 awr cyn y sioe.
Y Daith
Theatr y Sherman, Caerdydd
1 – 4 Mai 2019
Tocynnau: www.shermantheatre.co.uk
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
7 Mai 2019
Tocynnau: www.theatrclwyd.com
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
9 Mai 2019
Tocynnau: www.aberystwythartscentre.co.uk
Y Miners, Rhydaman
10 Mai 2019
Tocynnau: www.theatrausirgar.co.uk


