Pridd
Hyd y perfformiad: 1 awr
Canllaw oed: 14+
#pridd / @theatrgencymru

“Pam dwi’n glown, ddudas ti? . . . A! Ma hwnna’n gwestiwn gwahanol! Oherwydd mod i’n licio gneud i bobol grio. Ma nhw’n meddwl ma chwerthin ma nhw. Chwerthin nes ma’r dagra’n llifo.”
Un prynhawn mae Alwyn Tomos – neu Handi Al i blant y fro – yn cyrraedd adref i ddarganfod bod pob dim a’i ben i waered. Mae’r ffôn yn canu a dieithriaid yn galw, ond mae’r byd i gyd yn bridd.
“Sa ti’n licio newid ochor efo fi am tjenj?” medda’r dyn yr ochor arall i’r bwr’. A dyma ni’n dau’n newid ochor fel ‘tai ni’n ddarna’ draffts. A mi oedd y view o’r ochor arall i’r bwr’, wedi i ni newid ochra’, yn anhygoel.”
Drama newydd ar gyfer un actor gan Aled Jones Williams, gydag Owen Arwyn fel Handi Al.


Actor: Owen Arwyn
Awdur: Aled Jones Williams
Cyfarwyddwr: Sara Lloyd
Cynllunydd: Ruth Hall
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Llun: Kirsten McTernan
6* – 8 Tachwedd, 2013
Y Llwyfan, Caerfyrddin
*Rhagddangosiad
12 – 14 Tachwedd, 2013
Theatr y Sherman, Caerdydd
16 Tachwedd, 2013
Neuadd JP, Bangor
18 – 19 Tachwedd, 2013
Galeri, Caernarfon
20 – 21 Tachwedd, 2013
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
23 Tachwedd, 2013
Morlan, Aberystwyth
26 Tachwedd, 2013
Canolfan Celfyddydau Pontardawe
27 Tachwedd, 2013
Theatr y Gromlech, Crymych
29 Tachwedd, 2013
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam