Pan Oedd Y Byd Yn Fach
14 Mai – 20 Mehefin, 2015
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Neuadd Gwyn
gan Siân Summers
Addas ar gyfer oedran 14+ oherwydd defnydd o iaith gref.

Gaeaf 1984, ac mae Streic y Glowyr yn ei hanterth. Mae’r esgid yn gwasgu a thensiynau’n uchel wrth i rai ddychwelyd i’r pwll.
Mewn llecyn tawel ymhell o gythrwfl y llinell biced, daw criw o fechgyn ynghyd yn gynnar un bore i ddangos eu cefnogaeth. Ond nid pawb sy’n cael croeso yno y bore hwn, ac mae un weithred dreisgar, ysgytwol yn newid eu bywydau am byth.
Drama newydd gan Sian Summers am frawdgarwch, brad a thyfu’n ddyn.
Cyfarwyddwr: Aled Pedrick
Cynllunydd: Cordelia Ashwell
Cynllunydd Goleuo: Tim Lutkin
Cyfansoddwr: Tom Recknell
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cast:
Dyfed Cynan – Alun
Sion Ifan – Garyn
Ceri Murphy – Dyfed
Berwyn Pearce – Billy
Gareth Pierce – Kevin

Bydd modd defnyddio Sibrwd yn ystod y cynhyrchiad yma – yr app sydd yn sibrwd yn eich clust ac o gymorth i’r di-gymraeg a dysgwyr.
Mwy o wybodaeth yma
