Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Nansi

8 Mehefin – 7 Gorffennaf, 2016
Ar daith

O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol.

logo_thegen_white

Ar yr ysgwydd chwith mae canu’r delyn, a’r miwsig yn mynd o’r galon, trwy’r bysedd, yn syth at y tant.

O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol. Yn y 1920au a’i gyrfa ar ei hanterth, mae telynores enwocaf Cymru’n sefyll ar groesffordd. A oes lle i gariad arall yn ei bywyd – cariad heblaw’r delyn?

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynhyrchiad yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015, dyma gyfle eto i weld y ddrama hon ar daith sy’n codi’r llen, i sain y delyn, ar gymeriad hudolus Nansi Richards.

08 – 10 Mehefin, Neuadd Goffa Cricieth (Tocynnau – Newsday Cricieth – 01766 522 491)
15 – 17 Mehefin, Institiwt Llanfair Caereinion (Tocynnau – Menter Maldwyn – 01686 610 010)
*Sgwrs ar ôl sioe nos Iau yr 16eg o Fehefin
22 – 24 Mehefin, The Paget Rooms, Penarth (Tocynnau – Foxy’s Deli – 029 2025 1666)
*Sgwrs ar ôl sioe nos Iau y 23ain o Fehefin
28 – 30 Mehefin, Neuadd Goffa Aberaeron (Tocynnau – Theatr Felinfach – 01570 470 697)
*Sgwrs ôl sioe nos Fercher y 29ain o Fehefin
05 – 07 Gorffennaf, Neuadd y Tymbl (Tocynnau – Menter Cwm Gwendraeth Elli – 01269 871 600)

Ceir dyddiadau llawn, amseroedd a manylion gwerthu tocynnau isod, tuag at gwaelod y dudalen yma.

Gwybodaeth i gynulleidfa

Os ydych chi’n dod i weld Nansi dyma wybodaeth i’ch paratoi ar gyfer y sioe;

– Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i’r perfformiad gychwyn, ac fe fydd bar yn y lleoliad yn gwerthu diodydd alcohol a di-alcohol. Bydd y bar yn cau hanner awr wedi’r perfformiad.

– Os ydych wedi archebu eich tocyn o flaen llaw ond heb dalu amdano, bydd angen i chi gyrraedd 10 munud cyn i’r perfformiad gychwyn neu bydd gennym yr hawl i werthu eich tocyn.

– Nid oes rhif i bob sedd felly bydd modd i chi eistedd ble bynnag yr hoffech chi. Mae rhai cadeiriau yn stolion a rhai eraill gyda chefn. Os ydych yn bryderus am hyn mae croeso i chi gysylltu gyda ein Pennaeth Marchnata; lowri@theatr.com / 01267 245617.

– Bydd y sioe yn cychwyn ar amser. Lle mae’n bosib, byddwn yn gadael rhai sydd yn cyrraedd yn hwyr i mewn i’r theatr ond dim ond am 10 munud wedi i’r sioe gychwyn. Wedi hynny, ni fydd modd cael mynediad i’r theatr.

– Mae’r sioe yn cynnwys defnydd o fŵg llwyfan a golau yn fflachio. Bydd dau stiward ymhob perfformiad – un wrth y prif ddrws ac un wrth allanfa dân.

– Os hoffech drafod hygyrchedd y perfformiadau, cysylltwch â’r Cynhyrchydd Gweithredol; rhian.davies@theatr.com / 01267 233882.

– Ceir pecyn ar gyfer dysgwyr Cymraeg i gyd-fynd â chynhyrchiad Nansi, i’w lawrlwytho yma;

Pecyn Dysgwyr Nansi

Sgyrsiau cyn / ôl sioe
Cynhelir sgyrsiau cyn ac ôl sioe er mwyn cynnig mwy o wybodaeth am gefndir Nansi Richards ac am y broses o greu’r cynhyrchiad. Mae’r sgyrsiau am ddim ac mae croeso cynnes i bawb. Ceir manylion llawn yma;
16 Mehefin, Institiwt Llanfair Caereinion
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, wedi ei gadeirio gan Siân James.
22 Mehefin, Foxy’s Deli, Penarth
6.30 – 7.00pm: Sgwrs cyn sioe am hanes Nansi Richards yng nghwmni Mair Penri. Am ddim ond lle i nifer cyfyngedig – i archebu eich lle cysylltwch â Foxy’s Deli; 029 2025 1666
23 Mehefin, Paget Rooms, Penarth
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, wedi ei gadeirio gan Siân Summers.
29 Mehefin, Neuadd Goffa Aberaeron
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, wedi ei gadeirio gan Anwen Jones.
06 Gorffennaf, Neuadd y Tymbl
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast, wedi ei gadeirio gan Catrin Beard.

  • “Melangell Dolma’s protrayal of Nansi, was simply awesome… Nansi has been one of the highlights of the theatrical year.”

    Eryl Crump, Daily Post, 4*
  • “Seren y sioe, heb os nag oni bai, oedd Nansi.”

    Lowri Cooke
  • “Yn ogystal â’r actio meistrolgar, rhaid canmol sgript Angharad Price… Mynnwch docyn, da chi.”

    Gruffydd Owen, Barn
I gael manylion canolfannau’r daith a sut i brynu eich tocynnau, dewiswch ddyddiad yn y golofn ar y dde.
Cast
Melangell Dolma – Nansi
Gwyn Vaughan Jones – Y Tad
Betsan Llwyd – Y Fam a chymeriadau benywaidd eraill
Martin Thomas – Cecil a chymeriadau gwrywaidd eraill

 

Tîm Creadigol
Awdur – Angharad Price
Cyfarwyddwr – Sarah Bickerton
Cynllunydd – Carl Davies
Cyfansoddwr, Cyfarwyddwr Cerdd a Chynllunydd Sain – Dyfan Jones
Cynllunydd Goleuo – Joe Fletcher
Cynllunydd Sain Cyswllt – Gareth Brierley
Cynllunydd Cynorthwyol – Erin Maddocks
sibrwd_text_logo_486

This production is supported by Sibrwd – the app that whispers in your ear and helps you follow what’s happening onstage if you don’t understand the language.
Find out more here

sibrwd_pirdd
  • Prev
  • Next
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government