Nansi
3 – 7 Awst, 2015
O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol.

Ar yr ysgwydd chwith mae canu’r delyn, a’r miwsig yn mynd o’r galon, trwy’r bysedd, yn syth at y tant.
Yn y 1920au, a hithau ar anterth ei gyrfa, mae telynores enwocaf Cymru’n sefyll ar groesffordd. A oes lle i gariad arall yn ei bywyd – cariad heblaw’r delyn?
Hyd heddiw, mae’r chwedloniaeth am ei bywyd lliwgar a chythryblus mor fyw ag erioed. Dyma ddynes oedd yn barod i herio confensiwn, gan dorri’i chwys ei hun.
Drama newydd gan Angharad Price sy’n codi’r llen, i sain y delyn, ar gymeriad hudolus Nansi Richards.
3 – 7 Awst, 2015.
8:00yh, Y Stiwt, Llanfair Caereinion, SY21 0RY.
Bydd y drysau yn agor am 7:30yh ac fe fydd bar yn gwerthu diodydd meddal ac alcoholic yn y lleoliad cyn y sioe.
Tocynnau ar gael trwy’r Eisteddfod / neu trwy ffonio 0845 4090 800
Bydd bws ar gael i’r gynulleidfa o faes yr Eisteddfod, yn gadael am 7:15yh o’r prif fynedfa.

Bydd modd defnyddio Sibrwd yn ystod y cynhyrchiad yma – yr app sydd yn sibrwd yn eich clust ac o gymorth i’r di-gymraeg a dysgwyr.
Mwy o wybodaeth yma
