Mrs Reynolds a’r Cena Bach
13 Ebrill – 13 Mai, 2016
gan Gary Owen
Cyfieithiad Cymraeg gan Meic Povey o Mrs Reynolds and the Ruffian
Cyfarwyddwr: Ffion Hâf

Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chwmni’r Frân Wen a Galeri Caernarfon
Pan mae gardd hyfryd Mrs Reynolds yn cael ei difrodi, caiff y fandal ifanc, Jay, ei yrru nôl yno gan yr awdurdodau i helpu’r hen wraig i’w thrwsio. O ganlyniad, daw dau fyd benben a’i gilydd; byd parchus, twt yr hen wraig, a byd heriol, anghynnes y llanc ifanc. Wrth iddyn nhw ddod i ddeall ei gilydd, datgelir rhywbeth sy’n dipyn o fraw i’r ddau.
Mae’r ddrama gyfoes hon gan yr awdur gwobrwyol Gary Owen – ac un o’n awduron Cymreig mwyaf beiddgar – yn cynnig golwg newydd, ffraeth a chadarnhaol ar y natur ddynol ac ar berthynas dwy genhedlaeth a dau ddosbarth cymdeithasol yng Nghymru heddiw.
Canllaw Oedran: 12+ (Cynnwys iaith gref)
Manteisiwch ar Sibrwd — app ar gyfer ffonau clyfar, sy’n arwain y di-gymraeg a dysgwyr drwy’r perfformiad. Lawrlwythwch o App Store a Google Play.
Ceir pecyn y dysgwyr yma i gyd-fynd gyda’r cynhyrchiad – Pecyn y Dysgwyr
Bydd sgwrs cyn sioe i ddysgwyr ar y 10fed o Fai am 6.30yh yn Theatr Clwyd gyda Pegi Talfryn.
Cast
Siw Hughes
Siôn Emyr
Leah Gaffey
Rhian Green
Iwan Fôn
Tîm Creadigol a Chynhyrchu
Awdur – Gary Owen
Cyfieithiad – Meic Povey
Cyfarwyddwr – Ffion Haf
Cynllunydd – Jason Southgate
Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain – Osian Gwynedd
Cynllunydd Goleuo a Fideo – Joe Fletcher
Hyfforddwr Llais – Nia Lynn
Cyfarwyddwr Corfforol – Eddie Ladd
Awdur Sibrwd – Tim Blackwell
Rheolwr Cynhyrchu – Angharad Mair Davies
Rheolwr Llwyfan – Gareth Roberts
Dirprwy Reolwr Llwyfan – Siwan Griffiths
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol – Caryl McQuilling
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol – Brynach Higginson
Peirianydd Sain – Gareth Brierley
Peirianydd Goleuo a Fideo – Ben Stimpson
Goruchwylydd Gwisgoedd – Erin Maddocks
Gweithredydd Sibrwd – Sioned Evans

This production is supported by Sibrwd – the app that whispers in your ear and helps you follow what’s happening onstage if you don’t understand the language.
Find out more here
