Merch yr Eog / Merc’h an Eog
5 Hydref – 24 Tachwedd, 2016
Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

“Duw a’th gadwo! Na chychwyn oddi ar yr ynys honno, fyth ni elli ddychwelyd!”
Moby-Dick, Herman Melville
Pan gaiff Mair ei galw adref i angladd yng Nghymru, mae’n dioddef pwl anghyfarwydd o hiraeth, ac mae’r sôn am werthu’r fferm deuluol yn corddi teimladau o gyfrifoldeb a dyletswydd. Mae hi bellach yn cwestiynu dedwyddwch ei bywyd dinesig yn Llydaw, a’i pherthynas â’i chariad, Loeiza. ’Dyw ei bywyd yno erioed wedi teimlo mor bell o gefn gwlad Cymru. A hithau’n gorfod wynebu’r penderfyniad mwyaf anodd iddi erioed, daw cymydog caredig ag anrheg anghyffredin iddi. Ai dyma’r arwydd mae hi wedi bod yn ei geisio?
Drama newydd, gyfoes ac amlieithog (Cymraeg/Llydaweg/Ffrangeg) am gariad a pherthyn, sy’n archwilio’r berthynas glòs rhwng Cymru a Llydaw, ac yn edrych o’r newydd ar ddilema’r alltud.
Perfformir y ddrama yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg gyda chyfieithiad ar gael yn y tair iaith, ynghyd â’r Saesneg, trwy gyfrwng ap Sibrwd. Lawrlwythwch Sibrwd cyn cyrraedd y theatr, os gwelwch yn dda. Heb ffôn symudol? Bydd gennym ddigon o declynnau i chi eu benthyg ar y noson felly peidiwch â phoeni!
Gwybodaeth i gynulleidfa Merch yr Eog
BETH I’W DDISGWYL
Mae Merch yr Eog yn gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba (cwmni theatr o Lydaw) ac mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Bydd y ddrama yn cael ei pherfformio mewn tair iaith – Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg, ond bydd modd deall yr holl ieithoedd trwy ddefnyddio app Sibrwd.
I ddilyn y ddeialog gyfan yn y ddrama, bydd angen i bob aelod o’r gynulleidfa ddefnyddio app Sibrwd, sydd yn cynnig cyfieithiad trwy glustffonau ac ar y sgrin.
Sibrwd
Mae modd lawrlwytho Sibrwd am ddim ar gyfer ffonau symudol trwy iTunes a GooglePlay. Gofynwn i chi wneud hynny cyn cyrraedd y theatr, a dewch â chlustffonau gyda chi os oes gennych rai. Bydd modd prynu rhai cyn mynd mewn i’r theatr am £2 os oes angen rhai arnoch chi.
Os nad oes gennych ffôn symudol bydd gennym nifer o declynnau i’r gynulleidfa eu menthyg yn y theatr, a digon o staff i’ch helpu chi i ddefnyddio Sibrwd, felly peidiwch â phoeni!
Mae Sibrwd yn cynnig cyfieithiad yn Gymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Saesneg.
Defnyddio Sibrwd
Wrth gyrraedd y theatr, dewiswch opsiwn wi-fi ‘Sibrwd’ ac yna rhowch eich ffôn ar ‘airplane mode’, ond gwnewch yn siwr bod y wi-fi dal ymlaen ar ôl gwneud hynny. Bydd hyn yn sicrhau nad oes galwadau yn tarfu arnoch chi yn ystod y perfformiad.
Agorwch app Sibrwd a gwasgwch ‘Perfformiad’. Wrth i’r ddrama ddechrau, bydd y testun a’r sain yn cychwyn yn awtomatig.
Pethau i’w nodi:
Sicrhewch nad ydych chi’n tynnu’r clustffonau allan o’r ffôn yn ystod y perfformiad.
Os ydych yn cloi’r ffôn bydd yr app yn stopio gweithio nes eich bod yn ei ddat-gloi.
HYD Y DDRAMA: Tua awr a hanner. Nid oes egwyl.
ADDAS AR GYFER: 12+
MYNEDIAD I’R ANABL: Ceir mynediad i’r anabl ymhob lleoliad. Ceir trefniadau penodol gyda’r canolfannau.
Yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourgès.
Cyfarwyddo: Sara Lloyd, Thomas Cloarec
Cynllunydd: Nadège Renard
Cynllunydd Goleuo: Ceri James
Cynllunydd Fideo: Louise Rhoades-Brown
Cynllunydd Sain: Steve Shehan
Cast yn cynnwys; Lleuwen Steffan, Rhian Morgan, Dyfan Roberts, Dyfan Dwyfor, Loeiza Beauvir, Steeve Brudey, Mai Lincoln.
Eisiau dysgu ychydig o lydaweg cyn y sioe? Ymuwch â ni!
Yng nghwmni Aneirin Karadog:
7 Hydref 2016: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 6.30yh yn y Stiwdio
20 Hydref 2016: Yr Atom, Caerfyrddin, 6.30yh
26 Hydref 2016: Canolfan Mileniwm Cymru, 6.30yh

This production is supported by Sibrwd – the app that whispers in your ear and helps you follow what’s happening onstage if you don’t understand the language.
Find out more here
