Llygoden yr Eira

Llygoden yr Eira
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light.
Gyda chefnogaeth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe.
Mae’r gaeaf wedi cyrraedd ac mae’r eira yn garped ar lawr y goedwig. Gan wisgo’n gynnes, rhuthra blentyn allan i chwarae yn y byd newydd disglair.
Ond beth sy’n cuddio’n dawel dan yr eira? Llygoden fach yn cysgu’n sownd. Gan lithro, rolio a chwerthin, mae’r ddau ffrind newydd yn ymgolli gyda’i gilydd yn y byd rhyfeddol hwn.
Dewch i gadw’n gynnes yn yr eira mawr ac ymuno â ni ar antur yn y goedwig hudol. Dyma stori aeafol swynol i blant bach, yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae.
Cefnogir y cynhyrchiad hwn gan Awenau, cynllun datblygu cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru, wedi’i noddi gan gronfeydd coffa Elinor Wyn Roberts a Graham Laker.
Cyfarwyddwr: Lee Lyford
Cast: Iwan Garmon
Y Daith
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
26 Tachwedd 2019
Canolfan Celfyddydau Pontardawe
28 Tachwedd 2019
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
30 Tachwedd 2019
Theatr y Grand, Abertawe
3 + 4 Rhagfyr 2019
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
8 Rhagfyr 2019
Ffwrnes, Llanelli
10 Rhagfyr 2019
Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri
12 + 13 Rhagfyr 2019
Canolfan Hermon, Sir Benfro
14 Rhagfyr 2019
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
16 + 17 Rhagfyr 2019
Neuadd Bodffordd, Ynys Môn
19 Rhagfyr 2019
Ysgol Bro Cernyw, Llangernyw
20 Rhagfyr 2019
Ganolfan Nefyn
21 Rhagfyr 2019
Cast
Iwan Garmon
Timoedd Creadigol a Chynhyrchu
Cyfarwyddwr: Lee Lyford
Cyfarwyddwr Cyswllt: Ffion Wyn Bowen
Cynllunydd Cyswllt*: Luned Gwawr Evans
*Cynllun set a gwisgoedd yn seiliedig ar gynllun gwreiddiol gan Edwina Bridgeman
Cyfarwyddwr Pypedau: Nikki Warwick
Cynllunydd Sain: Alex Vann
Cynllunydd Goleuo*: Angharad Evans
*Cynllunydd Goleuo Gwreiddiol: George Seal
Gwneuthurwr Pyped: Marc Parrett
Rheolwr Cynhyrchiad: Angharad Mair Davies
Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans
Rheolwr Llwyfan Technegol: Angharad Evans
Adolygiadau
“Hapus ydy’r unig air alla i ddefnyddio i ddisgrifio sut oeddwn i yn teimlo ar ôl gweld y cynhyrchiad” – Mari Elen Jones, Dacw Mam
Adolygiad – Llygoden yr Eira
“Roedd yn brofiad hudolus o’r cychwyn cyntaf.” – Clara Lloyd, Mam Cymru
Barn Mam – Cynhyrchiad Theatr Llygoden yr Eira