Hollti
AR DAITH LEDLED CYMRU
5 – 20 HYDREF 2017
gan Manon Wyn Williams

Hollti
gan Manon Wyn Williams
“Dim y ni sy efo gafal ar y tir, ond y tir sy efo gafal arnan ni.”
Mae datblygiadau ar y gweill i adeiladu atomfa newydd ar Ynys Môn. Ond pa effaith gaiff yr Wylfa Newydd ar ei chymdogion agosaf wrth i beiriant mawr cyfalafiaeth geisio llyncu fferm sydd wedi bod yng ngofal yr un teulu ers cenedlaethau?
Oes gennym ni ddewis? Sut arall fedrwn ni ofalu na fydd y golau’n diffodd? Ac onid oes gwir angen y swyddi?
Dyma ddrama air-am-air newydd a beiddgar am hawl ein cymunedau i lunio’u dyfodol eu hunain.
Gyda sgript wedi’i chreu o gyfweliadau gyda thrigolion lleol, daw cast o wynebau cyfarwydd â’r dadleuon yn fyw.
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton (cyfarwyddwr Nansi, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, 2015).
Cast: Siw Hughes, Gwyn Vaughan Jones, Dafydd Emyr, Sion Pritchard, Iwan Charles, Steffan Harri a Lowri Gwynne.
Yn seiliedig ar syniad gwreiddiol gan Sarah Bickerton a Marred Glynn Jones.
Mynediad ar gyfer y di-Gymraeg drwy gyfrwng SIBRWD – lawrlwythwch yr ap o’r AppStore neu GooglePlay.
#Hollti
Byddwn yn cynnal sesiynau holi ac ateb ar hyd y daith:
Sesiwn holi ac ateb cyn sioe yn Galeri nos Iau 5 Hydref yng nghwmni Sarah Bickerton, Manon Wyn Williams a Marred Glynn Jones, wedi ei gadeirio gan Catrin Jones Hughes.
Sesiynau holi ac ateb ôl sioe, gydad aelodau o’r cast, fel a ganlyn:
Theatr Mwldan, Aberteifi, nos Fawrth 10 Hydref (Cadeirydd: Ceri Wyn)
Theatr y Lyric, Caerfyrddin, nos Iau 12 Hydref
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, nos Lun 16 Hydref (Cadeirydd: Elin Haf Gruffydd Jones)
ATRiuM, Caerdydd, nos Iau 19 Hydref (Cadeirydd: Jon Gower)