Fy Ynys Las
gan Eddie Ladd
20 Mai 2020

Fy Ynys Las
gan Eddie Ladd
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts
Does unman yn debyg i gartref. Ond sut mae dod i ’nabod y lle arbennig hwnnw go iawn?
Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae Eddie Ladd, yr artist a’r berfformwraig arobryn, wedi symud gartref i fyw gyda’i mam ar y fferm lle cafodd ei magu – Maesglas. Ym mhob twll a chornel o’r llecyn rhyfeddol hwn – y ffermdy, y beudy, y clôs a’r tŷ tato – mae Eddie yn ail-ymweld â hanes y teulu, straeon y gymuned leol, ac atgofion am ei gyrfa hir ac amrywiol ei hun.
Am 7yh ar 20 Mai, dewch ar daith rithiol gydag Eddie wrth iddi roi bywyd o’r newydd i’w gorffennol. Yn fyw o gartref Eddie i’ch cartrefi chi, dyma gipolwg unigryw ar fywyd yng nghefn gwlad Cymru mewn cyfnod o bandemig.
Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw Fy Ynys Las.
Amser rhedeg: 1 awr
Cafodd Fy Ynys Las ei ddarlledu’n fyw ar Facebook Live ar 20 Mai 2020. Mae recordiad o’r digwyddiad byw ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube tan 19 Mehefin 2020.
CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.
Mae Fy Ynys Las yn un o Gomisiynau Digidol Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales mewn partnertiaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.