Er Cofid 19
gan Er Cof
12 Mehefin 2020

Er Cofid 19
gan Er Cof
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts
4 Ffrind. 6 Awr. Cannoedd o Eiriau. Dyma Er Cofid 19.
O gwisiau Zoom i sesiynau ffitrwydd ar-lein, o weithio o’r ’stafell sbâr i glywed fersiwn annisgwyl o Calon Lân – dyma ein normalrwydd newydd.
Yn y perfformiad digidol cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg, ymunwch â phedwar ffrind dan glo, wrth iddynt ladd amser, pryfocio a rhoi’r byd yn ei le. Dewch ac ewch (a dewch yn ôl!) fel y mynnwch – tra’n eistedd yn yr ardd, tra’n coginio swper neu tra’n llenwi’r bath. Bydd y pedair yna i’ch herio a’ch diddanu mewn marathon theatraidd.
12 Mehefin 2020
4yp – 10yh
Amser rhedeg: 6 awr – dewch ac ewch fel y mynnwch
Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw Er Cofid 19.
Canllaw oed 14+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed
Mae Er Cofid 19 yn un o Gomisiynau Digidol Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales mewn partnertiaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.