Enfys
gan Melangell Dolma
10 Mehefin 2020

Enfys
gan Melangell Dolma
Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru
Mae enfysau ym mhob man yn awr. Enfysau o ddiolch i’n gweithwyr allweddol ac i’r GIG.
Ond wrth geisio cwblhau ei waith cartref ar gyfer ei wers Gymraeg, am beth – neu bwy – mae Nick yn ddiolchgar?
Cast Richard Nichols
Cyfarwyddwr Rhian Blythe
Dramatwrgiaeth Alice Eklund
Cynhyrchydd Lois Gwenllian
10 Mehefin 2020
6yh
Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw Enfys.
Yn cynnwys iaith gref
Mae Melangell Dolma yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru, sef cynllun sy’n cynnig cyfleoedd i ddramodwyr newydd neu gymharol newydd ddatblygu eu crefft trwy gyfres o ddigwyddiadau, gweithdai a mentoriaeth . Cefnogir y cynllun gyda nawdd gan S4C.
Mae Rhian Blythe yn aelod o Awenau, sef cynllun mentora a hyfforddi cyfarwyddwyr theatr ar eu prifiant Theatr Genedlaethol Cymru. Cefnogir y cynllun gyda rhoddion gan gronfeydd coffa Elinor Wyn Roberts a Graham Laker.
Mae Enfys yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

Chwith i dde: Melangell Dolma, Richard Nichols, Rhian Blythe