Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Eisteddfod 2018: Arall

3 – 11 Awst 2018

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

logo_thegen_white

Gofal dementia a’r Gymraeg

Lleoliad: Cymdeithasau 3, Y Senedd, Bae Caerdydd
Dyddiad:
Dydd Mercher 8 Awst
Amser:
10:15

Cyfleu a deall y broblem ieithyddol pan yn byw gyda dementia – dyna’r gobaith yn y sesiwn arbennig hon sy’n bartneriaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg, Alzhimer’s Society Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd Dyfan Roberts a Mirain Fflur yn perfformio detholiad o ‘Y Tad’ – y ddrama ddirdynnol sy’n portreadu bywyd dyn sy’n byw gyda dementia. Yn dilyn y perfformiad, bydd trafodaeth banel wedi ei sbarduno gan y perfformiad a chanfyddiadau o adroddiad newydd fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref gan Gomisiynydd y Gymraeg a Alzhimer’s Society Cymru; ‘Dementia a’r Gymraeg’.

Bydd y panel trafod yn cynnwys:

  • Emyr Roberts – Ymddiriedolwr, Alzheimer’s Society
  • Meri Huws – Comisiynydd y Gymraeg
  • Beti George – Profiad gofalwr
  • Cheryl James – Rheolwr Gweithredol De Orllewin Cymru, Alzheimer’s Society Cymru

Darperir cyfieithu ar y pryd

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i’r cyhoedd ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Er nad oes angen cofrestru, byddem yn gwerthfawrogi pe baech chi’n fodlon mynegi diddordeb drwy ymateb i: post@comisiynyddygymraeg.cymru

Seremoni’r Fedal Ddrama

Lleoliad: Pafiliwn HSBC (Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru)

Dyddiad: Dydd Iau 9 Awst

Amser: 14:30

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gefnogi seremoni’r Fedal Ddrama, ac wedi ymrwymo i weithio tuag at gyflwyno’r ddrama fuddugol mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru fel rhan o raglen yr Eisteddfod nesaf.

Cystadleuaeth: Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Beirniaid: Sarah Bickerton (Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru), Betsan Llwyd (Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws), ac Alun Saunders (awdur).

Gwobr: Y Fedal Ddrama (er cof am Urien Wiliam, yn rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).

Cyhoeddir y gystadleuaeth, a chyflwynir y beirniaid a’r osgordd, gan Feistres y Seremoni, Carys Edwards, Cadeirydd y Panel Drama. Betsan Llwyd fydd yn traddodi’r feirniadaeth.

Os oes teilyngdod, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno detholiad byr o’r ddrama fuddugol yn ystod y seremoni, gyda chefnogaeth gan deulu’r diweddar J. O. Roberts.

 

Dewch i fwynhau perfformiad o ddrama fuddugol cystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, sef Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd (6–10 Awst). Manylion llawn yma. Cyflwynir Milwr yn y Meddwl mewn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith.

  • Prev
  • Next
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government