Eisteddfod AmGen
1 – 8 Awst 2020

Croeso i raglen Theatr Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod AmGen.
Er nad oes modd i ni gyd gwrdd ar faes yr Eisteddfod eleni, dyma damaid i aros pryd i’n cynulleidfaoedd ei fwynhau cyn i ni allu dod at ein gilydd eto yn y dyfodol.
Byddwn ni’n cyflwyno rhaglen amrywiol o hen gynyrchiadau a gweithgareddau, yn ogystal â chynhyrchiad newydd digidol.
Creu Ar-lein
Adar Papur
gan Gareth Evans Jones
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry
Dyma ddrama newydd, obeithiol gan Gareth Evans Jones – drama fuddugol Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Cyfarwyddwr: Branwen Davies
Cast: Sion Eifion, Mirain Fflur, Judith Humphreys
Rhagor o fanylion am y cynhyrchiad ar gael yma.

Pawb Ar-lein
Sgwrs: Dathlu’r Fedal Ddrama
Cyfle i glywed Gareth Evans Jones, Rhydian Gwyn Lewis, Hefin Robinson a Heiddwen Tomos – cyn-enillwyr diweddaraf cystadleuaeth Y Fedal Ddrama – yn trafod eu gwaith yng nghwmni Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
6 Awst 2020, 2.30yh
Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol
Amser Chwarae gyda Llygoden yr Eira
Dewch ar antur newydd gyda Llygoden yr Eira a’i ffrind mewn sesiwn llawn hwyl a sbri i blant 5 oed ac iau ar Facebook.
5 Awst 2020, 1.30yh
Tudalen Facebook Theatr Genedlaethol Cymru
Llun: Kirsten McTernan

Theatr Gen Eto
Gyda bod ein theatrau ar hyn o bryd wedi gorfod cau eu drysau, rydym ni wedi lansio Theatr Gen Eto i roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r cwmni ar sgrin. Yn rhan o arlwy’r Eisteddfod eleni, rydym yn falch o rannu’r cynyrchiadau isod i’w mwynhau ar-lein:
Bachu gan Melangell Dolma
X gan Rhydian Gwyn Lewis
Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos
Estron gan Hefin Robinson
Llygoden yr Eira
Ar gael tan 14 Awst 2020
Gallwch wylio’r cynyrchiadau hyn ar ein sianel YouTube a hefyd ar blatfform digidol newydd AM (ar-lein ar amam.cymru neu drwy lawrlwytho’r ap ar amam.cymru/ambobdim).
