Eisteddfod Genedlaethol 2019
2 – 10 Awst
Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019

Croeso i raglen Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst…
Byddwn ni’n cyflwyno dau gynhyrchiad newydd o dan adain Theatr Gen Creu – gan gynnwys drama fuddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd – yn ogystal â rhaglen amrywiol o sgyrsiau a darlleniadau sy’n rhoi llwyfan i waith-ar-waith y cwmni. Unwaith eto eleni, rydyn ni’n falch iawn o noddi’r Pentref Drama fel rhan o bartneriaeth arbennig gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
X
gan Rhydian Gwyn Lewis
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith
Dyma ddrama newydd gyffrous gan Rhydian Gwyn Lewis – drama fuddugol Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Cyfarwyddwr: Ffion Dafis
Cast: Saran Morgan, Garmon Rhys, Manon Wilkinson, Tomos Wyn
Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst
3, 4 a 6 – 9 Awst 2019, 18.00
Tocynnau ar gael yma.
Rhagor o fanylion am y cynhyrchiad ar gael yma.
Bachu
gan Melangell Dolma
Cynhyrchiad Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, drwy Gronfa Gari, a Chanolfan Mileniwm Cymru
Wedi’i datblygu’n wreiddiol fel rhan o gynllun awduron preswyl Theatr Clwyd, dyma ddrama i godi’r galon gan Melangell Dolma, aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru, dan gyfarwyddyd Sarah Bickerton.
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton
Cast: Mared Jarman, Judith Humphreys, Cellan Wyn
Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanrwst
5 – 7 Awst 2019, 19.30
8 Awst 2019, 12.30
Mynediad am ddim gyda thocyn mynediad i’r maes.
Rhagor o fanylion am y cynhyrchiad ar gael yma.
Digwyddiadau eraill:
Theatr Gen Creu: Branwen (Darlleniad a Sgwrs)
Theatr y Maes, dydd Llun 5 Awst, 15.30
Dewch draw i fwynhau darlleniad o ddetholiad o ‘Branwen’, sef addasiad cyfoes o Ail Gainc y Mabinogi gan y dramodydd Aled Jones Williams, wedi’i gomisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd hefyd gyfle i chi glywed Aled ac Arwel Gruffydd yn trafod y broses o addasu’r chwedl i greu drama a fydd yn cael ei chynhyrchu’n llawn gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020.
Theatr Gen Creu: Gwely (Theatr Unnos)
Theatr y Maes, dydd Mawrth 6 Awst, 12.30
Yr her: creu darn newydd o waith mewn 24 awr. A’r un sy’n camu i’r adwy? Un o gyfarwyddwyr cynllun Awenau Theatr Gen Creu – Elen Mair Thomas.
Yn ystod penwythnos cyntaf yr ŵyl, bydd Elen yn crwydro’r maes i holi ’Steddfodwyr am straeon a phrofiadau o’u gwelyau – bywyd, marwolaeth, breuddwydion a chariad. Yna, fe fydd hi’n mynd ati dros nos i wau’r holl ddeunydd at ei gilydd a chreu gwaith newydd sbon fydd yn cael ei lwyfannu yn Theatr y Maes.
Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd: Bachu (Sgwrs)
Caffi’r Theatrau, dydd Mawrth 6 Awst, 13.30
Dewch i ymuno â ni yng Nghaffi’r Theatrau i drafod drama gyntaf Melangell Dolma – Bachu. Sgwrs gyda’r dramodydd ynghyd â’r cyfarwyddwr theatr Sarah Bickerton, wedi’i chadeirio gan Gwennan Mair Jones.
Theatr Genedlaethol Cymru: Y Cylch Sialc (Sgwrs)
Theatr y Maes, dydd Mercher 7 Awst, 12.30
Ymunwch â’r bardd a’r llenor Mererid Hopwood a’r gyfarwyddwraig theatr Sarah Bickerton i glywed rhagor am gynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru, sef Y Cylch Sialc.
Cewch glywed am y profiad o addasu a chyfarwyddo’r clasur hwn gan Bertolt Brecht a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r cynhyrchiad uchelgeisiol yma a fydd ar daith ledled Cymru yn yr hydref.
Gweithgareddau i blant
Mae gennym nifer o gweithgareddau i blant drwy gydol yr wythnos ar draws y maes a thu hwnt. Ceir crynodeb isod o’r hyn sydd gennym ar y gweill:
Taith Theatr mewn Troli
Caffi’r Theatrau, dydd Sul 4 Awst, 13.30 + dydd Iau 8 Awst, 16.00 + dydd Sadwrn 10 Awst 14.30
Creu drama gyda phrops o’r troli.
I’r teulu cyfan; cychwyn yng Nghaffi’r Theatrau
Gweithdy Creu Pypedau
Caffi’r Theatrau, dydd Llun 5 Awst, 11.00
I blant 5 – 11 oed
Gweithdy Creu Cymeriadau gyda phrops theatr
Caffi’r Theatrau, dydd Llun 5 Awst, 12.00
I blant 5 – 11 oed
Gweithdy Creu Cymeriadau gydag adnoddau wedi’u hailgylchu
Caffi’r Theatrau, dydd Mawrth 6 Awst + dydd Mercher 7 Awst, 11.00
I blant 5 – 11 oed
Gweithdy Llais
Caffi’r Theatrau, dydd Mawrth 6 Awst, 12.00
Creu cymeriadau gwahanol wrth ddefnyddio’r llais.
I blant 5 – 11 oed
Parti a Gweithdy Creu Pypedau Llygoden yr Eira
Caffi’r Theatrau, dydd Mercher 7 Awst, 13.30
I blant 5 – 10 oed
Gweithdy Creu Set Tirlun Tref gan ddefnyddio adnoddau wedi’u hailgylchu
Caffi’r Theatrau, dydd Iau 8 Awst, 11.00
I blant 5 – 11 oed
Gweithdy Creu Pwy ydy Pwy
Caffi’r Theatrau, dydd Gwener 9 Awst, 11.00
Creu sgriptiau byrion a monologau
I blant 5 – 11 oed
Gweithdy Creu Drama
Maes Carafanau, dydd Llun – Gwener 5 – 9 Awst, 18.00
Datblygu sgiliau actio, magu hyder a chael hwyl.
I blant 5 – 11 oed