Dwr Mawr Dyfn
Cwt Drama, Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014

Cyd-gynhyrchiad Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Rhan o gyfres AMRWD Sherman Cymru.
Drama fuddugol Y Fedal Ddrama, Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, 2013
Mae merch ifanc o’r enw Tryweryn yn ceisio darganfod beth yn union a’i denodd hi at lan y llyn am y tro olaf.
Mae ail-fyw’r atgofion, y cyfrinachau a’r celwydd yn deffro ysbrydion tywyll ei gorffennol – a dyma ddarganfod y gwir ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd dan y tonnau oer.
Dechrau’r daith yw boddi Tryweryn.
Dyma berfformiad cyntaf y ddrama a enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2013.



Awdur: Glesni Haf Jones
Cyfarwyddwr: Sara Lloyd
Cast:
Lowri Gwynn
Huw Llŷr
Victoria Pugh
Manon Wilkinson