Dangosiad ar sgrin fawr o Milwr yn y Meddwl
gan Heiddwen Tomos
8 Chwefror 2019
Theatr Felinfach

Dangosiad ar sgrin fawr o Milwr yn y Meddwl, drama fuddugol Medal Ddrama 2017
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd dangosiad yn Theatr Felinfach ym mis Chwefror 2019 o Milwr yn y Meddwl, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Cafodd Milwr yn y Meddwl, drama gan Heiddwen Tomos, ei llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, yn dilyn llwyddiant y ddrama yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. Bydd dangosiad ar sgrin sinema o’r cynhyrchiad yn Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron, 8 Chwefror 2019. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.
Dangosiad: 8 Chwefror 2019 | 19:30
Theatr Felinfach
Bydd sgwrs cyn y dangosiad yng nghwmni Heiddwen Tomos
Gwasgwch yma i gael tocynnau neu ffoniwch 01570 470697

Milwr yn y Meddwl
gan Heiddwen Tomos
Mae Ned wedi dod adref i orllewin Cymru o faes y gad. Ond mae ei brofiadau diweddar yn rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill – y rhai dyfnaf – yn anweledig. Dyma ddrama newydd, ddirdynnol sy’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau erchyll o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Mewn stori oesol am gariad a pherthyn, a fydd cwlwm câr yn drech na’r bwled a’r bom?
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Gyda chefnogaeth Ystad Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith
Cyfarwyddwr: Jac Ifan Moore
Cast: Aled Bidder, Ceri Murphy, Elin Phillips, Phylip Harries
Oed: 13+
***Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a rhai golygfeydd a allai beri gofid. Defnyddir goleuadau strôb a synau uchel, sydyn yn y cynhyrchiad hwn.
Bydd sgwrs cyn y dangosiad yng nghwmni Heiddwen Tomos

Aled Bidder

Ceri Murphy

Elin Phillips

Phylip Harries