Chwalfa
17 – 27 Chwefror, 2016
Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen
Addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd

Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, Bethesda (1900 – 1903) yw’r anghydfod diwydiannolhiraf yn hanes y Deyrnas Unedig, a chefndir nofel fawr T Rowland Hughes. Rhwygwyd cymuned, chwalwyd teuluoedd, a gwelwyd dioddefaint fel na fu o’r blaen. Ond roedd yna ddewrder hefyd a phobl yn sefyll dros egwyddor a hawl a thegwch. Trwy’r cyfan, yn wyneb brad a chaledi, roedd yna chwerthin a chanu, ac yn fwy na dim, roedd yna frawdgarwch.
Bydd aelodau o’r gymuned leol yn ymuno â chast proffesiynol i ddod â’r cyfan yn fyw, wrth i Edward Ifans a’i deulu wynebu’r her fwyaf yn eu hanes.
Cyfrannodd chwarelwyr Gogledd Cymru o’u cyflogau prin i godi prifysgol a mynnu gwell i’w plant. Dyma stori enwocaf yr arwyr hynny, i ddathlu agoriad theatr odidog newydd wrth droed y coleg hwnnw.
Seliwyd ar nofel gan T Rowland Hughes
Addaswyd gan Gareth Miles
Cyfarwyddwr Arwel Gruffydd
Cynllunydd Cai Dyfan
Cyfansoddwr, Cynllunydd Sain a Chyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones
Cynllunydd Goleuo Elanor Higgins
Cynllunydd Fideo Louise Rhoades-Brown
Hyfforddwr Llais Nia Lynn
Cyfarwyddwr Ymladd RC Annie
Cast
Lisa Jên Brown
Sion Emyr
Dyfrig Evans
Mark Flanagan
Robin Griffith
Gwenno Hodgkins
Morfudd Hughes
Elain Lloyd
Ceri Murphy
Emyr Roberts
Rhodri Trefor
Llion Williams

Bydd modd defnyddio Sibrwd yn ystod y cynhyrchiad yma – yr app sydd yn sibrwd yn eich clust ac o gymorth i’r di-gymraeg a dysgwyr.
Mwy o wybodaeth yma
