Carys ac Andy
gan Elin Gwyn
17 Mehefin 2020

Carys ac Andy
gan Elin Gwyn
Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru
“Dwi’n methu chdi gymaint…”
Wrth i’r cyfyngiadau symud gadw Carys ac Andy ar wahân, mae’r cwpl yn troi at Zoom a FaceTime i gadw mewn cysylltiad.
Ond rhwng yr ymarfer corff dyddiol, y potsian yn yr ardd a’r downars amser gwely, nid yw caru yn y clo mawr yn hawdd.
Cast Tara Bethan, Sara Gregory, Carwyn Jones
Cyfarwyddwr Ffion Dafis
Dramatwrgiaeth Alice Eklund
Cynhyrchydd Lois Gwenllian
17 Mehefin 2020
6yh
Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw Carys ac Andy.
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed
Mae Elin Gwyn yn aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru, sef cynllun sy’n cynnig cyfleoedd i ddramodwyr newydd neu gymharol newydd ddatblygu eu crefft trwy gyfres o ddigwyddiadau, gweithdai a mentoriaeth. Cefnogir y cynllun gyda nawdd gan S4C.
Mae Carys ac Andy yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

Chwith i dde: Elin Gwyn, Tara Bethan, Carwyn Jones, Sara Gregory, Ffion Dafis