Blodeuwedd
Theatr Genedlaethol Cymru
gan Saunders Lewis

Mae Blodeuwedd yn anniddig, a Llew yn anfodlon. Er iddo drechu tynged ei fam, a chael gwraig wedi’i chreu o flodau, mae’n dal i ysu am etifedd. Ac mae natur wyllt Blodeuwedd yn gwneud iddi deimlo fel carcharor yn ei chartref ei hun. Pan syrthia Gronw Pebr mewn cariad â hi, daw cyfle o’r diwedd i ddianc . . . ond rhaid yn gyntaf ladd Llew.
Yn dilyn llwyddiant cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Blodeuwedd yn Nhomen y Mur, ger Trawsfynydd, yn 2013, cafwyd cyfle arall i weld dehongliad oesol Saunders Lewis o’r hen, hen chwedl ar daith i theatrau yn 2014. Ac yntau’n cwblhau’r ddrama hon yn fuan wedi’r Ail Ryfel Byd, mae’r awdur yn ein hatgoffa mai arf peryglus yw natur yn nwylo dyn.


Tomen y Mur, Gorffennaf 2013
Cynhyrchiad safle arbennig awyr agored yn Nhomen y Mur, Trawsfynydd.
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd: Carl Davies
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cast:
Morfydd Clark
Rhys Bidder
Iddon Jones
Glyn Pritchard
Non Haf
Martin Thomas
Owain Llyr Edwards
Mewn cydweithrediad â CADW a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Taith 2014
11 – 12 Chwefror, 2014
Theatr y Ffwrnes, Llanelli
14 – 15 Chwefror, 2014
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
17 Chwefror, 2014
Pafiliwn Rhyl
19 – 20 Chwefror, 2014
Theatr y Sherman, Caerdydd
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cynllunydd: Carl Davies
Cynllunydd Goleuo: Ceri James
Cast:
Rhian Blythe
Rhys Bidder
Carwyn Jones
Glyn Pritchard
Non Haf
Rhodri Sion
Owain Llŷr Edwards